Am dan Moroedd Gwyllt Cymru
O glogwyni creigiog dramatig i draethau agored eang, mae Cymru’n genedl wedi’i siapio gan y môr, sydd yn ein gwaed a’n gwythiennau. Rydym yn eich gwahodd i Ddarganfod ein hamgylchedd morol gwych. Mwynhewch y cyfoeth o brofiadau sydd ganddo i’w gynnig a’n helpu i gynnal ei natur wyllt a hardd trwy ei Barchu ar gyfer y dyfodol.

Darganfod
Darganfyddwch fyd o ryfeddodau gwyllt o amgylch arfordir Cymru
Mwynhau
Mwynhewch antur, gweithgareddau a digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn
Parch
Parchwch y môr a’r arfordir, a’u trigolion

Be i’w Moroedd Gwyllt Cymru
Mae Moroedd Gwyllt Cymru yn dathlu’r gorau o fywyd gwyllt morol Cymru, gan adrodd hanesion am weithredoedd mentrus ar y moroedd mawr, ac agor byd o ymchwil a rhyfeddod. Rydym yn bartneriaeth o sefydliadau ac unigolion o’r un anian, sydd am rannu’r haelioni naturiol a welwn o gwmpas ein harfordir gyda’r rhai sy’n ymweld o bell ac agos.