Amdanom ni
Ym mis Awst 2016, daeth consortiwm o sefydliadau â diddordeb at ei gilydd i edrych ar yr hyn sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd i hyrwyddo elfennau hamdden morol sy’n gynaliadwy.
Mae’r consortiwm yn cynnwys:
Fforwm Arfordirol Sir Benfro
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
Pen Llŷn a’r Sarnau (PLAS) SAC Relevant Authorities Group
Pembrokeshire Marine SAC Relevant Authorities Group
Cyngor Gwynedd
Cyngor Sir Ceredigion
Cyngor Abertawe
Eryri Bywiol
Partneriaeth Aber Afon Hafren
RSPB
Cymdeithas Cadwraeth Forol
Cyfoeth Naturiol Cymru
Fel grŵp, buom yn trafod ffyrdd o weithio’n agosach i gyflawni yn erbyn blaenoriaethau cadwraeth forol, dwyn ynghyd y canllawiau arfer da presennol a chyfrannu tuag at adeiladu brand Cymru fel cyrchfan dwristiaeth werdd sy’n arwain y byd. Y canlyniad yw gwefan Moroedd Gwyllt Cymru, a gyda hi gallwn rannu’r gorau o fywyd gwyllt Cymru a rhoi gwybod i chi am sut y gallwch ein helpu i ymestyn arni.