Mwynhau

Gyda phob tymor, cyflwynir pethau newydd i’w gweld a’u clywed ar y moroedd o gwmpas Cymru. Adar mudol yn gorwedd ar draethau stormus yn y gaeaf, blodau gwyllt cyntaf y gwanwyn ar lethrau glaswelltog serth, morloi yn torheulo ar y glannau yn ystod heulwen ddiog yr hydref. Gall pob ymweliad â’r arfordir ddod â phrofiad ac antur newydd. Trefnwch yr amser gorau i fynd yno gyda’n calendr bywyd gwyllt a’n cynllunydd digwyddiadau.

Jan
Feb
March
April
May
June
July
Aug
Sept
Oct
Nov
Dec
Seabirds
Nesting
Nesting
Nesting
Nesting
Nesting
Seals
Pupping
Pupping
Pupping
Pupping
Dolphins & Porpoises
Main calving period in Cardigan Bay
Main calving period in Cardigan Bay
Main calving period in Cardigan Bay
Main calving period in Cardigan Bay
Main calving period in Cardigan Bay
Shorebirds
Winterning
Winterning
Wintering
Wintering

« Sgroliwch i’r chwith ac i’r dde i weld yr holl fisoedd »

Ffeithiau hwyl!

Adar y môr

Mae’r wylog wedi’i chofnodi’n plymio hyd at ddyfnder rhyfeddol o 180m!

Yr hugan yw ein haderyn y môr mwyaf, gyda lled adenydd o 2 fetr.

Gall palod nofio hyd at 30m o dan y dŵr a dal eu gwynt am 30 eiliad.

Mae adar drycin y graig yn amddiffyn eu nythod gyda chŵyd gwrth-ddŵr sydd ag arogl ofnadwy y maent yn ei anelu at dresmaswyr!

Morloi

Yn y gorffennol, credir bod sŵn morloi wedi denu llongau i greigiau, gan fod y morwyr yn cael eu swyno gan y sŵn – ond mewn gwirionedd, dim ond un morlo ydyw, benyw yn ôl pob tebyg, yn rhoi gwybod i un arall fod y lle wedi’i gymryd.

Yn y Saesneg defnyddir y term ‘Banana-ing’ / ‘Bananaring’ pan fydd morlo’n codi ei ben a’i gynffon i fyny ar yr un pryd. Mae ymchwilwyr yn credu bod hyn yn digwydd pan fydd morloi eisiau cadw’r rhannau hyn o’u corff, sy’n sensitif i oerni, allan o’r dŵr.

Ni fydd morloi benywaidd yn bwyta o gwbl wrth ofalu am eu lloi bach, ac maent yn gallu colli hyd at draean o’u pwysau yn ystod y tymor bridio.

Mae lloi morloi llwyd yn treulio tua 3-4 wythnos gyda’u mam yn y safle lle cânt eu magu cyn cael eu diddyfnu, ac ar ôl hynny maent yn gofalu am eu hunain.

Dolffiniaid a Llamhidyddion

Dolffiniaid trwynbwl Bae Ceredigion a Moray Firth yn yr Alban yw ein dolffiniaid preswyl. Y nhw yw’r rhai mwyaf o’u rhywogaeth yn y byd (gall gwrywod dyfu hyd at 4 metr o hyd!).

Gall dolffiniaid trwynbwl fod yn ffyrnig tuag at lamhidyddion harbwr, ac maent yn gallu ymosod arnynt a’u lladd, efallai mewn cystadleuaeth am fwyd.

Gall dolffiniaid pig byr ymddangos mewn ysgolion o filoedd o anifeiliaid oddi ar arfordir Sir Benfro yn y Môr Celtaidd

Mae’r gair ‘llamhidydd’ yn hen air am ddawnsiwr. Daw’r gair Saesneg ‘porpoise’ o’r geiriau Lladin, porco a piscus, sy’n golygu mochyn bysgodyn. Weithiau cânt eu galw’n ‘puffing pigs’ yn Saesneg, oherwydd y sŵn mawr a wnânt wrth iddynt anadlu.

Adar y Glannau

Ble mae’r lle gorau i weld adar y glannau?? Trwy bâr o binocwlars wrth gwrs! Gallwch eu gweld yn llawer mwy manwl, a hynny heb fod angen i chi fod yn agos atyn nhw o gwbl.

Mae dros 80,000 o adar yn ymweld ag Aber Afon Hafren bob gaeaf! Maen nhw’n gorffwyso ar eu ffordd o lefydd fel Siberia a’r Arctig.

Glannau Creigiog

Gall glannau creigiog fod mewn man agored neu mewn cysgod, ac os na allwch ddweud pa’r un, yna edrychwch ar ba mor dal yw’r llygaid meheryn sy’n glynu wrth y creigiau. Os ydynt ar y cyfan yn eithaf tal, mae’n fan cysgodol, ond ar draeth agored, mae angen iddynt geisio gorwedd yn isel yn erbyn y graig, felly maent yn fwy gwastad.

Gall fod yn sownd yn y creigiau helpu llawer o’n bywyd gwyllt morol i gadw i un man o’r lan. Weithiau mae gofod yn gyfyngedig ac mae creaduriaid fel anemoneau gleiniog (y smotiau coch hynny y cewch hyd iddynt yn sownd yn y graig) yn ymladd dros diriogaeth. Bydd yr anifeiliaid hyn yn ymladd â’i gilydd gan ddefnyddio strwythur fel tryferi wedi’u llenwi â phigiadau i gadw gafael ar lecyn da ar y graig Gall llawer o anifeiliaid a gwymon ymdopi â bod y tu allan i’r dŵr ac yn dangos amrywiaeth o ffyrdd i gadw lleithder, nes i’r llanw ddod yn ôl.

Gall llawer o anifeiliaid a gwymon ymdopi â bod y tu allan i’r dŵr ac yn dangos amrywiaeth o ffyrdd i gadw lleithder, nes i’r llanw ddod yn ôl.

Gall amddiffynfeydd môr artiffisial weithredu ychydig fel traeth creigiog ac maent yn darparu cartref ar gyfer rhai gwymon ac anifeiliaid morol (rhywbeth y mae ymchwilwyr yn awyddus i’w hyrwyddo yw drilio pyllau creigiog bach mewn creigiau i weld pwy sy’n symud i mewn).

Glannau Mwdlyd a Thywodlyd

Mae tywod yn gasgliad o gregyn a chreigiau wedi’u malu’n fân. Cymerwch olwg agos a gallech ddod o hyd i gragen fach ymhlith y gronynnau.

Mae glannau mwdlyd yn dueddol o gael eu darganfod mewn ardaloedd cysgodol lle gall y gwaddod mwy mân orwedd.

Os ydych yn cerdded ar draeth tywodlyd, efallai eich bod mewn gwirionedd yn cerdded ar faw llyngyr. Mae llyngyr y traeth yn byw yn y tywod ac yn cael eu gorchuddio a’u datgelu gan y llanw bob dydd. Maent yn bwyta bacteria o’r tywod y maent yn bwydo arno ac yn gadael sgwigls baw o dywod glân ar yr wyneb.

Mae cyllyll môr yn symud drwy’r tywod trwy ysgwyd eu hunain. Mae hyn yn hylifo’r tywod o’u cwmpas – gan ei gwneud hi’n haws symud oddi fewn iddo.

Twyni Tywod

Mae madfallod tywod, ein madfall fwyaf gyda’r gwrywod ysblennydd gwyrdd a hardd, yn cael yr enw yma oherwydd yma yn y DU maent yn hoff o fyw mewn twyni tywod. Mewn rhai rhannau o Ewrop, gellir eu canfod mewn parciau cyhoeddus, yng nghanol trefi.

Mewn rhai ardaloedd, heb ardaloedd creigiog gerllaw, mae cytrefi anifeiliaid (fel hydroidau a gwymon corniog) yn cael eu golchi i fyny ar y lan sy’n helpu i gasglu’r tywod a allai ffurfio twyn.

Daw’r gair ‘dune’ o’r Iseldireg canol (dune) ac mae’n perthyn i hen Saesneg (dūn) sy’n golygu ‘i lawr’.

Mae yna bum math gwahanol o dwyni yn seiliedig ar eu siâp. Mae’r siâp yn seiliedig ar lefel y gwynt a’r math o dywod.

Morfeydd heli

Mae morfeydd heli’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddiogelu ein harfordir – mae’r planhigion yn lleihau ynni’r llanw a’r tonnau a all helpu i leihau llifogydd mewn ardaloedd o amgylch yr arfordir.

Gall morfa heli storio mwy o garbon na fforestydd glaw.