Archwiliwch arfordir Cymru y Pasg hwn gyda’r Ap Wales Coast Explorer | Crwydro Arfordir Cymru newydd, rhad ac am ddim.
O glogwyni creigiog dramatig i draethau eang agored, mae Cymru’n genedl sydd wedi’i siapio gan y môr. Rydym yn eich gwahodd i ddarganfod yr amgylchedd morol hyfryd hwn. Mwynhewch y profiadau cyfoethog sydd ganddi i’w cynnig a helpwch i gynnal ei natur wyllt a gwreiddiol drwy ei pharchu.
O’n tir, trwy ein haberoedd, i’n moroedd, ewch â’r arfordir yn eich poced gyda nodweddion defnyddiol yr ap:
Mae’r ap rhad ac am ddim hwn yn ganlyniad cydweithrediad rhwng Fforwm Arfordir Sir Benfro a’r rhwydwaith o reolwyr sy’n gofalu am Ardaloedd Morol Gwarchodedig arbennig Cymru, a phartneriaid eraill. Mae’r Ardaloedd Morol Gwarchodedig hyn yn lleoedd i weld dolffiniaid, morloi a bywyd gwyllt rhyfeddol arall Cymru, yn ogystal â bod yn gartref i longddrylliadau, ceyrydd hynafol ac archeoleg hynod ddiddorol arall.
Mae’r ap hwn yn adeiladu ar Ap poblogaidd Cod Morol Sir Benfro, gan helpu pobl i ddeall sut i osgoi tarfu ar fywyd gwyllt a difrodi cynefinoedd, tra’n dal i fwynhau’r golygfeydd sydd gan Gymru i’w cynnig.
Defnyddiwch yr ap i nodi’r bywyd gwyllt a welwch ar eich taith, p’un a ydych am weld y gwahaniaeth rhwng dolffin a llamhidydd neu adnabod rhywogaethau ymledol.
Mae'r ap hyd yn oed yn caniatáu i luniau ac adroddiadau o'ch bywyd gwyllt gael eu rhannu â chanolfannau gwybodaeth bioamrywiaeth lleol. Mae hyn yn helpu i adeiladu darlun cenedlaethol o ble mae ein bioamrywiaeth yn ffynnu – a ble nad yw’n ffynnu cymaint.
Yn fwy na hynny, defnyddiwch yr ap i ddod o hyd i ddarganfyddiadau archeolegol fel llongddrylliadau coll, coedwigoedd tanddwr a safleoedd hanesyddol eraill. Cofnodwch eich darganfyddiadau archeoleg forwrol, gan helpu Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ddeall cyflwr ein safleoedd hynafol.
Wrth i ni ddianc i’r arfordir ar gyfer ein gwyliau a’n hanturiaethau, darganfyddwch y Gymru go iawn – a mwynhewch hi hyd yn oed yn fwy. Eich cydymaith ar gyfer eich holl waith archwilio arfordir Cymru, p’un a ydych yn syllu ar ddolffiniaid neu’n cerdded llwybr arfordir Cymru, yn mentro mewn caiac neu’n mynd i bwll glan môr ar ein glannau tywodlyd.
Bydd yr ap, a fydd yn cael ei lansio ar 7 Ebrill 2022, ar gael ar ddyfeisiau IOS ac Android o'ch Siop Apiau.
O’n tir, trwy ein haberoedd i’n moroedd – dewch yn Archwiliwr Arfordir Cymru.
Chwiliwch am yr ap ‘Wales Coast Explorer’ yn eich Siop Apiau o 7 Ebrill 2022! #WalesCoastExplorer #CrwydroArfordirCymru
"Datblygwyd yr Ap gan Fforwm Arfordir Sir Benfro mewn partneriaeth â Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, gyda chymorth partneriaid ledled Cymru. Ariannwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru drwy Gyllid Rhwydwaith MPA."
Os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf gan Wild Seas Wales, ynghyd â gwybodaeth bwysig am ddigwyddiadau, yna tanysgrifiwch i'n cylchlythyr isod. Fyddwn ni ddim yn anfon e-bost atoch yn aml iawn, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Byddwn hefyd yn cadw eich holl fanylion yn ddiogel, ac ni fyddwn yn eu rhannu gydag unrhyw un arall.