Ym mis Awst 2016, daeth consortiwm o sefydliadau â diddordeb at ei gilydd i edrych ar yr hyn sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd i hyrwyddo elfennau hamdden morol sy’n gynaliadwy. Mae'r consortiwm yn cynnwys:
- Fforwm Arfordirol Sir Benfro
- Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
- Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
- Cyngor Gwynedd
- Cyngor Sir Ceredigion
- Cyngor Abertawe
- Eryri Bywiol
- Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau
- Partneriaeth Aber Afon Hafren
- RSPB
- Cymdeithas Cadwraeth Forol
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Fel grŵp, buom yn trafod ffyrdd o weithio’n agosach i gyflawni yn erbyn blaenoriaethau cadwraeth forol, dwyn ynghyd y canllawiau arfer da presennol a chyfrannu tuag at adeiladu brand Cymru fel cyrchfan dwristiaeth werdd sy'n arwain y byd.
Y canlyniad yw gwefan Moroedd Gwyllt Cymru, a gyda hi gallwn rannu’r gorau o fywyd gwyllt Cymru a rhoi gwybod i chi am sut y gallwch ein helpu i ymestyn arni.