Parch
Rydym eisiau gallu rhannu harddwch anhygoel bywyd gwyllt morol ac arfordirol Cymru gyda phawb sy’n ymweld â’n glannau, ond rydym hefyd yn gwybod pa mor fregus a sensitif y gall fod. Weithiau, y weithred leiaf sy’n peryglu anifail neu’n niweidio planhigyn. Drwy adnabod ein bywyd gwyllt, gallwn helpu i’w warchod a’i adael i ffynnu. Datblygwch eich dealltwriaeth o’r awyr agored a helpwch i wneud ein moroedd yn lle gwell i bawb a phopeth.
- Datblygu eich dealltwriaeth o’r amgylchedd morol
- Darganfod mwy am y Codau Ymddygiad Morol yn eich ardal a sut maent yn helpu i ddiogelu bywyd gwyllt

Chwiliwch am god morol ar gyfer eich ardal
Defnyddiwch y map i ddod o hyd i godau ymddygiad lleol a chyfyngiadau mynediad ar gyfer gwahanol arfordiroedd Cymru.
