Parch
Adar y môr
Gyda mulfrain, huganod, môr-wenoliaid a’r palod digrif, mae gan Gymru doreth o adar môr. Mae rhai yn clwydo’n simsan ar y clogwyni creigiog uchel, mae eraill yn aml yn mynd at yr ynysoedd anghysbell sydd yng nghanol y môr. Ble bynnag maent yn byw, mae’n bwysig nad ydym yn eu niweidio, weithiau mae mynd yn rhy agos i gael golwg well arnynt yn eu peryglu. Dilynwch y cyngor syml hwn a’u helpu i gadw’n ddiogel ac yn iach.
« Sgroliwch i’r chwith ac i’r dde i weld yr holl fisoedd »
Sut i ryngweithio â adar y môr
Adar môr: teimlo’n ofnus
Adar môr: nythu ar glogwyni
Mae adar y môr yn ymgasglu mewn rafftiau ar yr wyneb
Sut i ofalu am Adar y môr
Mae adar y môr yn treulio’r rhan fwyaf o’r flwyddyn ar y môr ond yn dod i’r lan i nythu rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf. Maent ar eu mwyaf diamddiffyn tra byddant yn nythu, felly cofiwch gadw ddigon o bellter. Rydym yn argymell nad ydych byth yn dod yn agosach na 100 metr i ffwrdd.
Mae adar sy’n nythu mewn tyllau ac ar y ddaear yn wyliadwrus iawn o ymwelwyr, yn enwedig y rhai â phedair coes! Gwnewch yn siŵr nad ydych yn dod yn rhy agos at eu nythod a chadw’r ffrindiau blewog hynny ar dennyn.
Mae adar yn dangos arwyddion o drallod os byddwch yn mynd yn rhy agos atynt. Cadwch lygad amdanynt yn ymestyn eu gyddfau, yn troi eu pennau, yn siglo eu pennau i fyny ac i lawr, ac ysgwyd eu hadain yn y fan a’r lle. Mae’r cyfan yn dangos eu bod yn paratoi i hedfan i ffwrdd.
Mae gwylogod a llursod yn nythu ar glogwyni ac yn cadw eu hwyau ar eu traed i’w cadw’n gynnes. Os ydych chi’n rhoi braw iddynt wrth ddod yn rhy agos, gallant ddychryn a hedfan i ffwrdd, a gellid dinistrio eu hwyau.
Mae rhai adar yn gorffwys ac yn bwydo mewn grwpiau mawr allan ar y môr. Os ydych chi allan ar y dŵr a’ch bod yn mynd yn rhy agos, gall hyn aflonyddu arnynt. Rhowch seibiant iddynt, efallai eu bod wedi hedfan yr holl ffordd o Affrica!