Parch

Glannau Mwdlyd a Thywodlyd

Mae’r glannau hyn yn edrych yn ddiffrwyth ac yn anghroesawus, ond i’r gwrthwyneb. Mae’r holl dywod a mwd yna’n golygu arwynebedd i facteria fod yn sownd ynddo, ac mae llawer o bysgod cregyn, mwydod a chramenogion wedi dysgu i’w wneud yn gartref iddynt. Gallwch ddweud bod bywyd yn gyfoethog trwy sylwi ar yr holl adar sy’n bwydo, yn enwedig yn y gaeaf. Mae llawer o ffyrdd y mae anifeiliaid yn byw yn y mathau hyn o gynefinoedd ac mae rhai anifeiliaid yn darparu gofal ar gyfer llawer o greaduriaid eraill. Mae gofalu am y llefydd hyn yn golygu bod bywyd oddi fewn, ac uwchben, yn ddiogel.

Sut i ryngweithio â Glannau Mwdlyd a Thywodlyd

Eberoedd ac ar draethau

Gwylio bywyd gwyllt

Bywyd gwyllt rhyfeddol

Sut i ofalu am Glannau Mwdlyd a Thywodlyd

Gall llanw isel ddatgelu rhai cynefinoedd prin a bregus iawn, fel gwelyau morwellt. Os ydych chi allan ar y gwastadeddau llaid hyn, cerddwch o amgylch morwellt yn hytrach nag arno.
Pan fydd y llanw’n mynd i mewn, lleihewch eich cyflymder os ydych yn croesi dros welyau morwellt mewn cwch â phŵer, a pheidiwch â gollwng angor yn yr ardaloedd hyn.
Os ydych chi’n cloddio am abwyd ar wastadeddau llaid ar lanw isel, helpwch y cynefin i ffynnu trwy beidio â chymryd mwy nag sydd ei angen arnoch, ac ail-lenwi’r twll rydych chi wedi’i balu bob amser.
Gall llanw isel ddatgelu cynefinoedd prin a bregus iawn, fel gwelyau morwellt a ‘riffiau’ y llyngyren ddiliau.
Os ydych allan ar y fflatiau llaid hyn, cerddwch o amgylch y cynefinoedd hyn yn hytrach na drostyn nhw.