Parch
Morfeydd heli
Mae morfa heli yn gynefin eithriadol o bwysig sy’n gorwedd rhwng y tir a’r môr. Gellid dod o hyd i forfa heli mewn amgylcheddau cysgodol gan gynnwys o amgylch morydau a phorthladdoedd, lle mae effaith tonnau’n llai.
Mae morfeydd heli’n cynnwys planhigion sy’n gallu bodoli mewn amgylcheddau hallt. Y rheswm am hyn yw bod dŵr hallt yn eu gorchuddio sawl gwaith yn ystod y dydd wrth i’r llanw ddod fewn a mynd allan. Mae planhigion y morfa heli yn chwarae rhan bwysig o ran cadw’r cynefin hwn yn sefydlog gan eu bod yn dal mwd a thywod gyda’i gilydd yn eu gwreiddiau. Maent yn gartref i lawer o wahanol fywyd gwyllt, o’r tir a’r môr. Mae’r rhain yn cynnwys rhywogaethau sy’n byw mewn mwd ac sy’n darparu ffynhonnell fwyd i anifeiliaid mwy o faint. Mae llawer math o bysgod yn defnyddio’r morfeydd heli fel “ardal fagu” i ddiogelu pysgod ifanc rhag cael eu bwyta! Hefyd mae gwahanol fathau o adar (megis y pibydd coesgoch) yn defnyddio’r morfa heli i gysgodi, ac i gasglu bwyd megis pysgod cregyn, llyngyr a physgod.