Rydym eisiau gallu rhannu harddwch anhygoel bywyd gwyllt morol ac arfordirol Cymru gyda phawb sy’n ymweld â’n glannau, ond rydym hefyd yn gwybod pa mor fregus a sensitif y gall fod. Weithiau, y weithred leiaf sy'n peryglu anifail neu'n niweidio planhigyn. Drwy adnabod ein bywyd gwyllt, gallwn helpu i’w warchod a’i adael i ffynnu. Datblygwch eich dealltwriaeth o’r awyr agored a helpwch i wneud ein moroedd yn lle gwell i bawb a phopeth.
Os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf gan Wild Seas Wales, ynghyd â gwybodaeth bwysig am ddigwyddiadau, yna tanysgrifiwch i'n cylchlythyr isod. Fyddwn ni ddim yn anfon e-bost atoch yn aml iawn, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Byddwn hefyd yn cadw eich holl fanylion yn ddiogel, ac ni fyddwn yn eu rhannu gydag unrhyw un arall.