Mae’n anhygoel o gyffrous gweld dolffiniaid a llamhidyddion o gwmpas ein harfordiroedd. Gwelir dolffiniaid trwynbwl a llamhidyddion harbwr yn aml ledled Cymru. Maent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yma yn bwydo ac yn bridio, oherwydd ein moroedd maethlon, sy’n eu meithrin. Mae rhywogaethau eraill o forfilod a dolffiniaid, fel y morfil Minke neu’r dolffin Risso, y gellir eu gweld ar adegau penodol o'r flwyddyn, neu'n dod i dreulio eu hamser yn bwydo yn ein dyfroedd cyfoethog. Lle bynnag y byddwch chi'n eu gweld, mae treulio amser yn eu gwylio’n brofiad gwerth chweil, ac i gael y gorau o'r profiad, mae'n bwysig na tharfir arnynt.
Amser loi yn Bae Ceredigion from May to October
Mae dolffiniaid wrth eu bodd yn aros mewn grwpiau, yn enwedig pan fo dolffiniaid ifanc neu fychan yn eu plith; gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n eu gwahanu trwy yrru drwyddynt.
Os ydych mewn cwch â phŵer, arafwch i 5 not pan welwch ddolffiniaid a llamhidyddion. Cadwch oddeutu bellter cae pêl-droed (100m) oddi wrthynt a pheidiwch â’u hamgylchynu neu eu rhwystro yn erbyn y tir. Os ydynt yn dod atoch chi, cadwch eich cwch ar gwrs sefydlog a symudwch yn araf.
Wyddoch chi y gallai dolffiniaid a llamhidyddion deimlo’n ofnus os byddwch chi’n dod yn rhy agos. Os ydych yn eu gweld yn newid cyflymder a chyfeiriad yn gyflym, yn taro eu cynffonau/esgyll ar y dŵr neu’n aros dan y dŵr am gyfnod hir, mae’n debyg eich bod yn rhy agos ac yn tarfu arnynt. Symudwch i ffwrdd yn araf
Rhowch fwy o le i ddolffiniaid a llamhidyddion ifanc, a sicrhewch nad ydych yn dod rhwng mam a dolffin bach.
Dolffiniaid trwynbwl Bae Ceredigion a Moray Firth yn yr Alban yw ein dolffiniaid preswyl. Y nhw yw’r rhai mwyaf o’u rhywogaeth yn y byd (gall gwrywod dyfu hyd at 4 metr o hyd!).
Gall dolffiniaid trwynbwl fod yn ffyrnig tuag at lamhidyddion harbwr, ac maent yn gallu ymosod arnynt a’u lladd, efallai mewn cystadleuaeth am fwyd.
Dolffiniaid yw morfilod danheddog (Orca) mewn gwirionedd. Maent yn bwyta pysgod, mamaliaid morol eraill, neu’r ddau.
Gall dolffiniaid pig byr ymddangos mewn ysgolion o filoedd o anifeiliaid oddi ar arfordir Sir Benfro yn y Môr Celtaidd
Mae’r gair ‘llamhidydd’ yn hen air am ddawnsiwr. Daw’r gair Saesneg ‘porpoise’ o’r geiriau Lladin, porco a piscus, sy’n golygu mochyn bysgodyn. Weithiau cânt eu galw’n ‘puffing pigs’ yn Saesneg, oherwydd y sŵn mawr a wnânt wrth iddynt anadlu.
Os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf gan Wild Seas Wales, ynghyd â gwybodaeth bwysig am ddigwyddiadau, yna tanysgrifiwch i'n cylchlythyr isod. Fyddwn ni ddim yn anfon e-bost atoch yn aml iawn, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Byddwn hefyd yn cadw eich holl fanylion yn ddiogel, ac ni fyddwn yn eu rhannu gydag unrhyw un arall.