Mae’r glannau hyn yn edrych yn ddiffrwyth ac yn anghroesawus, ond i’r gwrthwyneb. Mae’r holl dywod a mwd yna’n golygu arwynebedd i facteria fod yn sownd ynddo, ac mae llawer o bysgod cregyn, mwydod a chramenogion wedi dysgu i’w wneud yn gartref iddynt. Gallwch ddweud bod bywyd yn gyfoethog trwy sylwi ar yr holl adar sy'n bwydo, yn enwedig yn y gaeaf. Mae llawer o ffyrdd y mae anifeiliaid yn byw yn y mathau hyn o gynefinoedd ac mae rhai anifeiliaid yn darparu gofal ar gyfer llawer o greaduriaid eraill. Mae gofalu am y llefydd hyn yn golygu bod bywyd oddi fewn, ac uwchben, yn ddiogel.
Gall llanw isel ddatgelu rhai cynefinoedd prin a bregus iawn, fel gwelyau morwellt. Os ydych chi allan ar y gwastadeddau llaid hyn, cerddwch o amgylch morwellt yn hytrach nag arno.
Pan fydd y llanw'n mynd i mewn, lleihewch eich cyflymder os ydych yn croesi dros welyau morwellt mewn cwch â phŵer, a pheidiwch â gollwng angor yn yr ardaloedd hyn.
Os ydych chi’n cloddio am abwyd ar wastadeddau llaid ar lanw isel, helpwch y cynefin i ffynnu trwy beidio â chymryd mwy nag sydd ei angen arnoch, ac ail-lenwi’r twll rydych chi wedi’i balu bob amser.
Gall llanw isel ddatgelu cynefinoedd prin a bregus iawn, fel gwelyau morwellt a ‘riffiau’ y llyngyren ddiliau. Os ydych allan ar y fflatiau llaid hyn, cerddwch o amgylch y cynefinoedd hyn yn hytrach na drostyn nhw.
Mae'r creaduriaid sy'n byw yn ac ar lannau mwdlyd a thywodlyd yn ffynhonnell fwyd hollbwysig i'r adar arbennig sy'n ymweld ac yn byw yma
Cadwch yn ddiogel ar lan y môr a byddwch yn ofalus ar y fflatiau llaid - mae'r llanw'n gallu troi’n gyflym a gallwch fod mewn perygl go iawn o fynd yn sownd!
Byddwch yn ofalus i beidio ag amharu ar adar hirgoes ac adar dŵr sy'n bwydo ar y glannau, yn enwedig yn ystod y gaeaf.
Mae tywod yn gasgliad o gregyn a chreigiau wedi’u malu’n fân. Cymerwch olwg agos a gallech ddod o hyd i gragen fach ymhlith y gronynnau.
Mae glannau mwdlyd yn dueddol o gael eu darganfod mewn ardaloedd cysgodol lle gall y gwaddod mwy mân orwedd
Os ydych yn cerdded ar draeth tywodlyd, efallai eich bod mewn gwirionedd yn cerdded ar faw llyngyr. Mae llyngyr y traeth yn byw yn y tywod ac yn cael eu gorchuddio a'u datgelu gan y llanw bob dydd. Maent yn bwyta bacteria o’r tywod y maent yn bwydo arno ac yn gadael sgwigls baw o dywod glân ar yr wyneb.
Mae cyllyll môr yn symud drwy’r tywod trwy ysgwyd eu hunain. Mae hyn yn hylifo’r tywod o’u cwmpas - gan ei gwneud hi’n haws symud oddi fewn iddo.
Os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf gan Wild Seas Wales, ynghyd â gwybodaeth bwysig am ddigwyddiadau, yna tanysgrifiwch i'n cylchlythyr isod. Fyddwn ni ddim yn anfon e-bost atoch yn aml iawn, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Byddwn hefyd yn cadw eich holl fanylion yn ddiogel, ac ni fyddwn yn eu rhannu gydag unrhyw un arall.