Mae nifer fawr o adar dŵr ac adar hirgoes yn treulio’r gaeaf ar fflatiau llaid, morfeydd heli a chorsydd pori arfordirol Cymru ac mae’r rhain yn fannau bwydo allweddol ar gyfer adar mudol pwysig y gwanwyn a'r Hydref. Mae hi’n ddifyr iawn gwylio'r adar hyn o bell ond gall mynd yn rhy agos darfu arnyn nhw. Gall olygu bod yr adar yn stopio defnyddio’r ardal i fwydo neu i glwydo, eu bod yn defnyddio storfeydd ynni hanfodol drwy orfod hedfan a gall achosi oedi cyn iddyn nhw gyrraedd eu hardaloedd magu. Os na allan nhw fwydo digon er mwyn cwblhau eu taith, efallai na fyddan nhw’n goroesi'r gaeaf.
Gaeafu from January to March
Gaeafu from November to End December
Fel gydag adar y môr, chwiliwch am arwyddion o aflonyddu a cheisiwch beidio â mynd yn rhy agos. Gall hedfan ddefnyddio storfeydd ynni wrth gefn sy'n hanfodol er mwyn i’r adar oroesi.
Cadwch ddigon pell oddi wrth adar sy’n gaeafu ar ein haberoedd rhwng mis Hydref a mis Mawrth
Gwyliwch y llanw – pan fydd y llanw’n dod i mewn, mae gan yr adar lai o diroedd bwydo ac efallai y byddan nhw’n clwydo ymhellach i fyny'r blaendraeth.
Cofiwch gadw eich ffrindiau blewog dan reolaeth effeithiol o gwmpas adar y glannau
Ble mae'r lle gorau i weld adar y glannau?? Trwy bâr o binocwlars wrth gwrs! Gallwch eu gweld yn llawer mwy manwl, a hynny heb fod angen i chi fod yn agos atyn nhw o gwbl.
Mae dros 80,000 o adar yn ymweld ag Aber Afon Hafren bob gaeaf! Maen nhw'n gorffwyso ar eu ffordd o lefydd fel Siberia a'r Arctig
Os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf gan Wild Seas Wales, ynghyd â gwybodaeth bwysig am ddigwyddiadau, yna tanysgrifiwch i'n cylchlythyr isod. Fyddwn ni ddim yn anfon e-bost atoch yn aml iawn, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Byddwn hefyd yn cadw eich holl fanylion yn ddiogel, ac ni fyddwn yn eu rhannu gydag unrhyw un arall.