Crwydro Arfordir Cymru | Wales Coast Explorer

Gael i’w lawrlwytho ar yr App Store!

O’n Tir, Trwy ein Haberoedd, I’n Moroedd…dewch yn Archwiliwr Arfordir Cymru gyda ni. O glogwyni creigiog dramatig i draethau eang agored, mae Cymru’n genedl sydd wedi’i siapio gan y môr. Rydym yn eich gwahodd i ddarganfod yr amgylchedd morol hyfryd hwn. Mwynhewch y profiadau cyfoethog sydd ganddi i’w cynnig a helpwch i gynnal ei natur wyllt a gwreiddiol drwy ei pharchu.

Darganfwyddwch. Mwynhewch. Parchwch.

Yn cynnwys:

• Codau Ymddygiad Morol
• Adnabod bywyd gwyllt a ffeithiau
• Rhowch wybod am weld bywyd gwyllt!
• Archaeoleg arfordirol yn eich ardal
• Adnabod rhywogaethau ymledol ac adrodd arnynt
• Cwbl ddwyieithog

I lawrlwytho’r ap, chwiliwch am Wales Coast Explorer yn eich siop apiau, neu cliciwch ar y dolenni isod.

Ar gael as ddyfeisiau Android neu iOS.

Mynnwch ap Archwiliwr Arfordir Cymru ar eich ffôn neu dabled a dechreuwch archwilio heddiw!

Mae’r Ap wedi’i ddatblygu gan Fforwm Arfordir Sir Benfro mewn partneriaeth â Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, gyda chymorth gan bartneriaid ledled Cymru.

Ariannwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru trwy Gyllid Rhwydwaith MPA.