

O glogwyni creigiog dramatig i draethau eang agored, mae Cymru’n genedl sydd wedi’i siapio gan y môr. Rydym yn eich gwahodd i ddarganfod yr amgylchedd morol hyfryd hwn. Mwynhewch y profiadau cyfoethog sydd ganddi i’w cynnig a helpwch i gynnal ei natur wyllt a gwreiddiol drwy ei pharchu.
- Archwilio: Dewch o hyd i safleoedd hynafol a mwynhewch arfordiroedd Cymru
- Cofnodi: Dewch yn wyddonydd dinesydd
- Adnabod: Planhigion ac anifeiliaid
Darganfwyddwch. Mwynhewch. Parchwch.

Mae’r Ap wedi’i ddatblygu gan Fforwm Arfordir Sir Benfro mewn partneriaeth â Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, gyda chymorth gan bartneriaid ledled Cymru.
Ariannwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru trwy Gyllid Rhwydwaith MPA.
