Parch

Glannau Creigiog

Gall glannau creigiog fod yn llefydd amrywiol iawn o ran nifer y gwahanol rywogaethau sy’n byw yno. Mae anifeiliaid yn defnyddio diogelwch holltau, creigiau a gwymon er mwyn bod yn sownd ynddynt, bwydo arnynt neu i guddio yn eu mysg. Ystyrir yr ardal rhwng y llanw uchel ac isel fel un o’r llefydd mwyaf peryglus ar y blaned i fyw ynddi. Yn ystod y dydd, mae’n rhaid i’r creaduriaid sy’n byw ar y traeth creigiog ymdopi â lefelau gwahanol o halen yn y dŵr, sychu, cynhesu neu oeri, neu gael eu bwyta mewn man a all gael ei daro’n aml gan donnau byrlymog. Mae sicrhau ein bod yn gofalu am y cynefin arbennig hwn a’i fywyd gwyllt yn un peth yn llai iddynt boeni amdano.

Sut i ryngweithio â glannau creigiog

 

Pyllau glan môr

Crancod

Bywyd gwyllt rhyfeddol

Sut i ofalu am Glannau Creigiog

Cofiwch fod gan lawer o greaduriaid eu tiriogaeth eu hunain. Os ydych yn chwilio am greaduriaid mewn pyllau creigiog neu ar hyd glannau creigiog, dychwelwch nhw i’r man y cawsoch hyd iddynt a gosodwch greigiau mewn mannau lle rydych wedi troi cerrig drosodd.

Mae llygaid meheryn yn gadael llwybr o lysnafedd cemegol y tu ôl iddynt wrth symud o gwmpas wrth bori ar algâu ar lanw uchel, ac yn ei ddilyn yn ôl i’w ‘cartref’ pan fydd y llanw yn dechrau gostwng. Os cânt eu symud i bwll creigiau gwahanol, ni fyddant yn gallu dod o hyd i’w ffordd yn ôl a gallant farw.

Mae llawer o rywogaethau o grancod yn byw ar ein glannau creigiog, yn chwilio am fwyd mewn pyllau ac o dan greigiau. Byddwch yn ofalus wrth eu trin, gan eu gafael ar yr ochr allan bob amser, wrth ddwy ochr eu cragen. Mae crancod yn eithaf hyblyg a gall hyd yn oed rhai bach roi pinsiad poenus iawn.

Mae adar sy’n gaeafu, fel y pibydd du a chwtiad y traeth, hefyd yn treulio amser ar lannau creigiog. Byddwch yn arbennig o ofalus nad ydych yn amharu arnyn nhw, maen nhw wedi hedfan yn bell iawn!