Parch
Morloi
Mae gennym ddwy rywogaeth wahanol o forloi sy’n byw yng Nghymru – y morlo llwyd a’r morlo cyffredin/harbwr. Maent yn edrych yn wahanol, yn gallu ymddwyn yn wahanol ac yn byw bywydau gwahanol, ond mae’r ddwy rywogaeth angen ein cymorth i’w cadw’n ddiogel rhag aflonyddwch o’r tir a’r môr. Y morlo llwyd yw’r un mwyaf cyffredin y byddwch chi’n ei weld yng Nghymru, heb os. Yn y DU mae gennym dros 40% o boblogaeth y byd i gyd, felly mae’n bwysig ein bod yn gwybod sut i ymddwyn o’u cwmpas i sicrhau eu bod yn gallu bwydo, bridio, gorffwys a nofio yn ddiogel.
« Sgroliwch i’r chwith ac i’r dde i weld yr holl fisoedd »
Sut i ryngweithio â morloi
Morlo lloi bach ar y traeth
Morloi llwyd yng nghymru
Morloi: teimlo’n ofnus
Mae sŵn yn amharu a forli
Morloi: badau dwr
Morloi: Cadwch eich pellter
Sut i ofalu am Morloi
Nid yw morloi yn hoffi cael eu dychryn. Os ydych chi mewn cwch tawel neu gaiac, ceisiwch aros o leiaf 100 metr i ffwrdd oddi wrthynt, peidiwch â dynesu atynt yn dawel a pheidiwch â’u hamgylchynu; fel bod ganddynt gyfle i nofio i ffwrdd oddi wrthych.
Mae sŵn yn amharu ar forloi. Os ydych mewn cwch â phŵer, cadwch eich cyflymder o dan 5 not wrth gyrraedd a gadael, a pheidiwch â mynd yn rhy agos. Arhoswch o leiaf 100 metr i ffwrdd. Mae hynny tua maint cae pêl-droed!.
Wyddoch chi fod morloi yn nofio’n gyflym ac yn deifio’n sydyn os ydynt yn teimlo’n ofnus? Os ydych chi’n eu gweld yn gwneud hyn pan fyddwch allan ar y dŵr, yna rydych chi wedi mynd yn rhy agos.
Os ydych yn gweld morloi yn gorwedd ar y traeth, peidiwch â mynd atynt, yn enwedig rhwng mis Awst a mis Rhagfyr pan fyddant yn aml gyda lloi bach. Os ydynt yn edrych fel eu bod yn ofnus neu’n flin, gall symud oddi wrthynt eu hatal rhag rhuthro i’r môr.
Os cewch hyd i lo morlo gwyn ar ei ben ei hun ar y traeth, mae’n debyg nad yw’r fam yn rhy bell i ffwrdd yn y dŵr yn rhywle. Gadewch nhw yno. Gall ymyrryd â lloi bach, e.e. cyffwrdd a throsglwyddo arogl dynol, achosi’r fam i’w gadael nhw.
Mae’n wych gweld morloi’n gorwedd yn haul yr haf ar greigiau cynnes. Ewch i’w gweld yn iawn ar y clogwyni uwchben y traeth a mwynhewch yr olygfa. Ond ceisiwch fod yn dawel a di-stŵr, oherwydd gall eu gwylio o’r clogwyni aflonyddu arnynt hyd yn oed.