Parch
Twyni Tywod
Mae’r bryniau hyn o dywod sydd â glaswellt yn bigau i gyd yn gynefin hynod bwysig, yn enwedig felly oherwydd mai ychydig ohono sydd ar ôl. Mae llawer o greaduriaid a phlanhigion a ddarganfyddwch mewn twyni tywod yn brin, gan nad ydynt yn byw yn unman arall. Y rhan bwysicaf o’r system twyni tywod yw ei bod yn newid byth a hefyd, gan agor gofod newydd i rywogaethau, a elwir yn rhywogaethau arloesol, sy’n helpu i’w ddatblygu fel lle i bethau fyw. Mae’r system hon yn ffynnu ar aflonyddwch naturiol ac mae cadw’r ardaloedd hyn mewn cyflwr da yn golygu peri cyn lleied o aflonyddwch dynol ag y gallwn.
Sut i ryngweithio â Twyni Tywod
Sbwriel Môr
Gwylio bywyd gwyllt
Adar twyni twyod
Sut i ofalu am Twyni Tywod
Mae twyni tywod yn gynefinoedd deinamig. Er bod angen y symudedd hwn i gynnal y cynefin, gall fod yn niweidiol os achosir gormod o erydiad. Gall niwed a achosir gan gerbydau arwain at ddifrod parhaol; y ffordd orau o brofi twyni tywod yw ar droed.
Gall sbwriel sy’n cael eu gadael ar y twyni gael eu chwythu i’r môr neu hyd yn oed ladd anifeiliaid bach. Ewch â sbwriel adref gyda chi, gan wneud yn siŵr nad ydych yn gadael unrhyw olion o’ch ymweliad.
Gall tanau a barbeciws niweidio llystyfiant twyni’n ddifrifol, gan ladd ardaloedd am nifer o flynyddoedd. Yn ystod yr amseroedd sych, gall y moresg ddal tân yn hawdd.
Pan fyddant yn cael eu gadael i bydru yn y twyni tywod, gall baw cŵn ladd planhigion a newid y cynefin. Glanhewch ar ôl eich ci ac ewch â’r bag i’r bin sbwriel agosaf.