Llwybrau ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol morol yng Nghymru
Er mwyn atal cyflwyno a lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol, rydym yn canolbwyntio ar reoli eu llwybrau yn hytrach na chanolbwyntio ar rywogaethau unigol, oherwydd bod targedu llwybrau yn amddiffyn rhag pob rhywogaeth estron oresgynnol forol. Mae rhai o’r llwybrau allweddol ar gyfer cyflwyno a lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol morol yn cael eu rhestru isod.
Cliciwch ar y delweddau i ddysgu mwy am y llwybr, gan gynnwys sut mae rhywogaethau estron goresgynnol yn cael eu lledaenu gan y llwybr, sut y gall rhywogaethau estron goresgynnol effeithio ar y gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r llwybr, y rhywogaethau estron goresgynnol risg uchaf ar gyfer y llwybr, canllawiau arfer gorau, a dolen i’r cynllun gweithredu llawn ar gyfer y llwybr.
Cynllun Gweithredu ar Gyfer y Llwybr
Cynnal a chadw safle ac adeiladu
Gall rhai gweithgareddau cyffredinol beryglu lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol. Mae’r rhain yn cynnwys mân waith, atgyweiriadau, a gwaith cynnal a chadw ac adeiladu na fyddai o reidrwydd angen trwydded forol ar eu cyfer. Gweler Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru am fwy o wybodaeth.
Mae symud deunydd ac offer ar safle neu oddi ar safle yn peryglu trosglwyddo rhywogaethau estron goresgynnol a all fod ynghlwm wrth arwynebau, wedi’u dal mewn unrhyw nodweddion/holltau sy’n dal dŵr (gan gynnwys mewn deunyddiau mandyllog fel concrit), neu’n byw mewn gwaddodion neu ymhlith rhywogaethau eraill. Os na chaiff y deunydd neu’r offer eu glanhau a’u sychu’n drylwyr cyn eu symud i’r safle neu oddi arno, byddai unrhyw rywogaethau estron goresgynnol sy’n bresennol hefyd yn cael eu symud i’r safle neu oddi arno.
Gall offer, rhannau neu ddeunyddiau sydd wedi bod mewn dŵr am gyfnodau hir gronni biolygredd a all gael ei symud i’r dŵr yn ystod gwaith cynnal a chadw, glanhau neu ailosod – gan ganiatáu i rywogaethau estron goresgynnol ledaenu i ardaloedd newydd.
Mae’r canllawiau arfer gorau isod ar gyfer y rhai sy’n cynllunio neu’n ymgymryd â mân waith ar safle.
Bwi wedi’i faeddu – Joe Ironside
Gweithgaredd: Glanhau, cynnal a chadw, neu gael gwared ar adeileddau/eitemau yn y dŵr
✅ Archwiliwch yr adeileddau cyn amharu arnynt.
✅ Os oes llygredd arnynt, dylid tynnu’r adeiledd allan o’r dŵr a’i lanhau cyn gwneud unrhyw waith ychwanegol. Cadwch unrhyw ddeunydd sy’n dod oddi ar yr eitem a’i waredu ar dir.
Gweithgaredd: Dwyn seilwaith/offer a deunydd newydd i’r safle
✅ Dylid gwneud yn siŵr ei fod yn hollol lân ac yn sych cyn ei ddefnyddio.
✅ Os nad yw’n lân pan fydd yn cyrraedd, dylid ei ddychwelyd i leoliad addas i’w lanhau. Dylai hwn fod yn ardal gaeedig o lawr caled gyda draeniad priodol. Dylid casglu a gwaredu dŵr gwastraff a deunydd gwastraff mewn ffordd fioddiogel i atal rhywogaethau estron goresgynnol (gan gynnwys larfâu, darnau ac ati) rhag ailymuno â’r amgylchedd (e.e. tanciau dŵr a biniau gwastraff biolegol).
✅ Os yn bosibl, dylid gwirio ffynhonnell yr eitem(au) a deall pa rywogaethau estron goresgynnol sy’n bresennol ar y safle hwnnw.
Gweithgaredd: Arfer da gweithredol cyffredinol ar gyfer seilwaith
✅ Lle bo’n ymarferol, dylid tynnu adeileddau a wnaed gan ddyn o’r dŵr pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
✅ Os na ellir eu tynnu pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, dylid gollwng angorfeydd i wely’r môr i dagu llygredd (mewn gwaddodion mwdlyd) neu atal tyfiant newydd.
✅ Nodwch gyfleoedd i sychu offer neu seilwaith mor aml â phosibl, e.e. ystafell sychu / ardal ar gyfer cit, cyfarpar diogelu personol ac ati.
✅ Manteisiwch i’r eithaf ar unrhyw lif naturiol o ddŵr croyw i mewn i’r safle. Amlygwch rywogaethau estron goresgynnol i ddŵr croyw trwy drochi neu olchi.
Rhaff wedi’i baeddu – Cyfoeth Naturiol Cymru




