Cychod hamdden (cychod bach a chychod mawr)
Mae’r dudalen hon yn esbonio sut y gall cychod hamdden ledaenu rhywogaethau estron goresgynnol, sut mae rhywogaethau estron goresgynnol yn effeithio ar weithgareddau cychod, y prif rywogaethau risg uchel, a chanllawiau arfer gorau i leihau eu cyflwyniad a’u lledaeniad.
Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn a chamau bioddiogelwch a argymhellir yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Llwybr Cychod Hamdden yng Nghymru. (*Cychod hamdden bach) ac (*Cychod hamdden mawr) *Saesneg yn unig gyda chrynodeb Cymraeg.
Ynglŷn â’r llwybr
Gellir symud anifeiliaid (fel wyau, larfâu, anifeiliaid ifanc neu oedolion) a gwymon (fel darnau neu sborau) rhwng lleoliadau gan gychod a’u hoffer. Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn gallu mynd yn sownd mewn bylchau bach a nodweddion cadw dŵr, ar ddillad ac offer (e.e. llafnau gwthio cychod, angorau, cymhorthion arnofio), neu wrth gyrff cychod.
Diagram o ardaloedd posibl ar gwch lle gall rhywogaethau estron goresgynnol gronni. Diagram sylfaen: J/105 © J/Boats Inc. RI, UDA. Ar gael yn Saesneg yn unig [www .jboats.com /]
Biolygru (neu lygredd biolegol) yw cronni a thyfiant organebau (planhigion, anifeiliaid, bacteria a malurion), gan gynnwys rhywogaethau estron goresgynnol, ar arwynebau tanddwr. Mae organebau biolygru cyffredin yn cynnwys chwistrellau môr, cregyn llong a sbyngau. Gall biolygredd gronni’n gyflym os yw cwch yn aros yn yr un lle yn y dŵr am wythnosau neu’n hirach. Os caiff y cwch ei symud wedyn neu os yw’n teithio i leoliad gwahanol heb gael ei lanhau yn gyntaf, gall y rhywogaethau sydd wedi cronni ar y cwch ledaenu i’r lleoliad newydd hwn.
Gall glanhau cychod sydd wedi’u llygru yn y dŵr, neu lanhau ar y lan lle mae malurion yn cael eu golchi’n syth yn ôl i’r môr, ganiatáu i rywogaethau estron goresgynnol oroesi a sefydlu yn yr ardal. Gall darnau gael eu cludo gyda’r llanw a’r ceryntau i ardaloedd newydd.
Gall arwynebau uwchben y llinell ddŵr ac offer llaith sy’n cael eu storio ar fwrdd (e.e. angorau, siacedi achub a ffenders) gario rhywogaethau a fydd yn lledaenu’n ddiweddarach pan gaiff yr offer eu defnyddio eto mewn ardal newydd. Gall tanciau, pibellau a holltau sy’n dal dŵr hefyd gynnwys rhywogaethau estron goresgynnol a all wedyn gael eu lledaenu wrth i’r dŵr gael ei ryddhau neu ei ddraenio mewn lleoliad arall.
Cychod hamdden mawr
Mae gan gychod mawr arwynebedd mawr o dan y dŵr lle gall rhywogaethau estron goresgynnol gronni, gan gynnwys ardaloedd anodd eu cyrraedd. Gan fod cychod mawr yn anoddach ac yn ddrytach i’w tynnu o’r dŵr, efallai nad ydynt yn cael eu glanhau a’u sychu mor aml.
Mae cychod mawr yn gallu teithio pellteroedd hir rhwng ardaloedd na allai rhywogaethau estron goresgynnol eu croesi ar eu pennau eu hunain. Mae cychod mawr hefyd yn fwy tebygol o gael eu symud ar y môr na chychod llai (e.e. wrth eu gwerthu), gan gynyddu’r tebygolrwydd y bydd rhywogaethau estron goresgynnol yn goroesi’r daith ac yn cael eu cyflwyno i ardaloedd newydd.
Gweler y Cynllun Gweithredu ar gyfer *Llwybr Cychod Mawr am fwy o wybodaeth (*Saesneg yn unig gyda chrynodeb Cymraeg).
Cychod hamdden bach
Mae cychod bach yn aml yn gwneud teithiau byrrach, a all ledaenu rhywogaethau estron goresgynnol yn gyflymach nag y byddai eu lledaeniad naturiol yn ei ganiatáu fel arall.
Gellir dod â chychod bach allan o’r dŵr yn amlach i’w glanhau a’u sychu. Fodd bynnag, gan fod y cychod llai hyn yn haws eu tynnu o’r dŵr, maent yn fwy tebygol o gael eu cludo dros dir i’w lansio yn y dŵr mewn lleoliadau newydd na chychod mawr. Mae hyn yn peri risg sylweddol os na chaiff y cwch ei lanhau a’i sychu rhwng lleoliadau.
Gall digwyddiadau cychod, fel regatas, gyflwyno risg hyd yn oed yn fwy gan y gall nifer o gychod fod wedi dod o’r tu allan i’r rhanbarth i gymryd rhan yn y digwyddiad. Gall hyn hwyluso cyflwyno/lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol i/o leoliadau rhyngwladol neu leoliadau pell. Gweler yr adran Dolenni ac adnoddau am wybodaeth am fioddiogelwch mewn digwyddiadau, gan gynnwys templed cynllun bioddiogelwch ar gyfer digwyddiad.
Gweler y Cynllun Gweithredu ar gyfer *Llwybr Cychod Bach am fwy o fanylion (*Saesneg yn unig gyda chrynodeb Cymraeg).
Sut mae rhywogaethau estron goresgynnol yn effeithio ar weithgareddau cychod hamdden?
- Mwy o lusgo a llai o effeithlonrwydd:
Gall rhywogaethau estron goresgynnol lynu wrth gyrff cychod, pontynau ac offer eraill mewn dwyseddau uchel, gan effeithio ar ddefnydd arferol a chostau cynnal/gweithredu. Mae biolygru trwm yn cynyddu llusgiad wrth deithio, gan arwain at gostau tanwydd, glanhau a gwrthlygru uwch. Gall rhai rhywogaethau estron goresgynnol, fel tiwblynghyren Awstralia, lynu i gyrff a rhannau metel o gychod sydd o dan y dŵr ac mae cael gwared â nhw’n gostus ac yn cymryd llawer o amser.
- Achosi rhwystrau a difrodi gwaith paent:
Gall cael gwared ar rywogaethau caled sy’n llygru achosi niwed i baent, haenau a’r corff ei hun. Gall rhywogaethau estron goresgynnol achosi rhwystrau mewn mewnlifoedd dŵr ar gychod neu fynd yn sownd mewn llafnau gwthio – er enghraifft, gyda matiau mawr o wymon, fel gwifrwymon Japan.
- Costau cynyddol a chyfyngiadau symud:
Gallai mwy o waith glanhau a chynnal a chadw mewn marinas a harbyrau arwain at gostau’n cael eu trosglwyddo o’r marina i berchnogion cychod. Gall rhai marinas a harbyrau hefyd ofyn i gychod sydd wedi’u llygru adael a’u hatal rhag angori.
Propelor budr – Heidi Reynolds, Dale Sailing
Ysgolion budr – Holly Peek
Rhywogaethau estron goresgynnol perthnasol ar gyfer cychod hamdden

Bryosoad crych coch
(Watersipora subatra)
Sut maent yn ymledu:
- Maent yn glynu wrth gragen cychod, adeiladwaith marina, cyfarpar a physgod cregyn, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
- Maent yn glynu wrth ddarnau o wymon ac yn drifftio i ardaloedd newydd ac yn eu cytrefu.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn baeddu’n ddrwg. Pan fydd cregyn gleision yn cael eu baeddu gall effeithio ar gynnyrch dyframaethu.
- Gan fod y rhywogaeth hon yn gallu gwrthsefyll paent copr rhag tyfiant, gall dyfu ar gragen cychod sydd wedi’u trin hyd yn oed. Ar ôl iddynt ymsefydlu, maent yn creu arwyneb sy’n caniatáu i rywogaethau estron goresgynnol eraill setlo a thyfu’n haws.
- Gall ffurfio cytrefi mawr sy’n effeithio ar rywogaethau brodorol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.
–
📸 © Red ripple bryozoan – John Bishop (MBA)

Tiwblynghyren Awstralia
(Ficopomatus enigmaticus)
Sut maent yn ymledu:
- Mae’r rhai ifanc (larfâu) yn arnofio’n rhydd yn y dŵr am hyd at dri mis, ac felly gallant gael eu cludo mewn dŵr balast a dŵr gwaelodion llong yn ystod yr amser hwn.
- Mae’r oedolion yn glynu wrth gragen cychod, offer, strwythurau a physgod cregyn, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
- Maent yn gallu goddef ystod eang o amgylcheddau, gan gynnwys ardaloedd lle mae mewnbwn mawr o ddŵr croyw, megis marinâu.
- Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Gall twf trwchus ffurfio strwythurau mawr sy’n ymdebygu i greigres sy’n newid cynefinoedd.
- Maent yn rhwystro pibellau ac yn baeddu cychod, offer a strwythurau, gan achosi’r angen am waith cynnal a chadw a glanhau costus.
- Gall baeddu drwg fod yn ddigon trwm i suddo badbontydd a chychod bychain.
- Maent yn trechddisodli rhywogaethau brodorol.
- Maent yn gwrthsefyll paent rhag tyfiant, sy’n ei gwneud yn anodd i’w hatal rhag glynu wrth gychod.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.
–
📸 © Tiwblynghyren Awstralia – Paul Brazier, Cyfoeth Naturiol Cymru

Chwistrell fôr garped
(Didemnum vexillum)
Sut maent yn ymledu:
- Gallant dorri’n ddarnau a all gael eu cludo gan y llanw a cherhyntau, a all wedyn ailgysylltu ac aildyfu mewn mannau eraill. Gall y darnau hyn oroesi am hyd at 30 diwrnod.
- Maent yn glynu wrth gragen cychod, adeiladwaith marina a physgod cregyn a ffermir, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
- Gall darnau oroesi mewn offer a mannau sy’n dal dŵr ar gychod, sy’n golygu y gellir eu cyflwyno i ardaloedd newydd os na chânt eu glanhau’n gywir cyn cael eu defnyddio mewn ardal newydd.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn mygu rhywogaethau brodorol a physgod cregyn a ffermir, gan achosi colled o ran bioamrywiaeth ac elw masnachol.
- Maent yn baeddu offer, cychod a seilwaith, sy’n cynyddu costau a’r amser a gymerir i’w glanhau.
- Maent yn newid cynefinoedd naturiol gwely’r môr, a all effeithio ar ein rhywogaethau brodorol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.
–
📸 © Chwistrell môr Didemnum vexillum – Joe Ironside

Morwiail asennog
(Undaria pinnatifida)
Sut maent yn ymledu:
- Mae edefynnau yn clymu wrth gragen cychod a physgod cregyn.
- Caiff sborau (strwythurau atgenhedlu) eu cludo mewn dŵr balast neu ddŵr gwaelodion llong, neu yn y dŵr a gludir gyda physgod cregyn.
- Gall sborau oroesi am hyd at ddwy flynedd o dan rai amodau, a gallant oroesi ystod eang o dymereddau sy’n golygu bod ymlediad dros bellteroedd maith yn bosibl.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn ffurfio coedwigoedd trwchus sy’n trechddisodli gwymon brodorol.
- Maent yn baeddu cychod ac adeiladwaith marina, a gallant fynd yn sownd mewn rhwydi, rhaffau ac offer dyframaethu, sy’n cynyddu costau a’r amser a gymerir i’w glanhau.
- Maent yn cymryd lle gwerthfawr y mae ei angen ar bysgod cregyn sy’n bwysig yn fasnachol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.
–
📸 © Wakame – Paul Brazier

Berdysyn main Japan
(Caprella mutica)
Sut maent yn ymledu:
- Mae’n anodd ei ganfod oherwydd ei faint bychan (fel arfer o dan 50 milimetr).
- Caiff ychydig iawn o oedolion eu symud ar gerhyntau a’r llanw, felly fel ‘ffawdheglwyr’ y cânt eu symud yn bennaf. Cânt eu cludo mewn mannau sy’n dal dŵr neu wrth lynu wrth ddillad ac offer.
- Cânt eu cludo mewn dŵr a gaiff ei symud gyda physgod cregyn neu gallant lynu wrth bysgod cregyn, cychod ac offer.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn cystadlu â rhywogaethau brodorol am fwyd a lle.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.
–
📸 © Perdysen Caprella mutica – Hans Hillewaert
Gweler y dudalen polisi a deddfwriaeth am wybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol, llwybrau ar eu cyfer a’r gyfraith.
Canllawiau arfer gorau
Mae’r wybodaeth hon yn cyd-fynd â Chynllun Gweithredu ar gyfer Llwybr Cychod Hamdden Prydain Fawr, sy’n cynwys y canlynol:
- • Cod ymddygiad ar gyfer cychod hamdden (Atodiad 2)
- • Canllawiau bioddiogelwch ar gyfer defnyddwyr cychod (Atodiad 3)
- Cymal bioddiogelwch enghreifftiol i’w gynnwys mewn cyfansoddiadau clwb (Atodiad 4) a thelerau ac amodau cytundeb angori (Atodiad 6)
Cwch yn cael ei godi – Heidi Reynolds, Dale Sailing
Arfer gorau ar gyfer glanhau cychod:
✅ Dylid tynnu cychod sydd â llygredd gweladwy neu drwm allan o’r dŵr i’w glanhau. Yn ddelfrydol, dylid gwneud hyn mewn ardal gaeedig o dir caled gyda draeniad priodol, uwchben llinell y llanw uchel.
✅ Ni ddylid caniatáu i ddeunydd sy’n cael ei lanhau oddi ar y cwch, a’r dŵr a ddefnyddir i’w lanhau, fynd yn ôl i’r môr. Gall y deunydd hwn a dŵr gynnwys naddion o baent gwrthlygru a rhywogaethau estron goresgynnol a all niweidio’r amgylchedd.
✅ Gwnewch yn siŵr bod cychod yn cael eu glanhau’n ddigon rheolaidd fel y cedwir y llygredd yn haenen o lysnafedd yn unig. Mae cynnal a chadw rheolaidd, gan gynnwys defnyddio gwrthlygredd priodol, yn allweddol i atal biolygredd rhag cronni.
Arfer gorau ar gyfer gweithredwyr/rheolwyr marinas a gwasanaethau morol:
✅ Glanhewch a sychwch seilwaith ac offer cyn eu symud rhwng lleoliadau.
✅ Tynnwch unrhyw adeileddau ac offer nas defnyddir o’r dŵr (e.e. bwiau, rhaffau, ffenders, ystofau ac angorfeydd).
✅ Gwiriwch seilwaith am fiolygredd yn rheolaidd a’i lanhau neu ei dynnu pan fo angen. Os yn bosibl, glanhewch adeileddau ac offer symudadwy (e.e. pontynau arnofiol a bwiau angori) ar dir, gan sicrhau nad yw malurion yn mynd i mewn i’r dŵr eto.
✅ Dylid annog defnyddwyr i wirio a glanhau eu cychod a’u hoffer wrth gyrraedd a gadael y safle.
✅ Darparwch neu hyrwyddo gorsafoedd bioddiogelwch / cyfleusterau glanhau presennol.
✅ Sicrhewch fod triniaeth gwrthlygru yn cael ei chynnal ar gychod a seilwaith tanddwr lle bo’n briodol.
✅ Manteisiwch i’r eithaf ar unrhyw lif naturiol o ddŵr croyw i mewn i’r safle. Amlygwch rywogaethau estron goresgynnol i ddŵr croyw trwy eu trochi neu eu golchi.
✅ Gweler yr adran adeiladu a chynnal a chadw safleoedd am ragor o wybodaeth
Arfer gorau ar gyfer manwerthu/gwerthiannau:
✅Darparwch a hyrwyddo camau gweithredu bioddiogelwch sy’n arfer gorau i gwsmeriaid ac aelodau
e.e. dylid annog cwsmeriaid i Edrych, Glanhau, Sychu offer, gosod arwyddion a darparu taflenni yn y siop, ac ychwanegu gwybodaeth ymwybyddiaeth at y wefan a chyfathrebiadau.
Arfer gorau ar gyfer clybiau a defnyddwyr cychod:
Lle bo modd, dylai pob cychwr Edrych, Glanhau a Sychu offer, cychod a dillad ar ôl eu defnyddio.
✅ Dylid annog aelodau i ddilyn arferion gorau bioddiogelwch ar ddechrau a diwedd eu gweithgaredd.
✅ Gwiriwch gychod yn rheolaidd am lygredd ar arwynebau sydd o dan ddŵr a malurion neu ddŵr llonydd ar y cychod (e.e. mewn cypyrddau angorau)
✅ Gwnewch yn siŵr fod cychod yn derbyn triniaeth wrthlygru a’u bod yn cael eu glanhau’n ddigon rheolaidd fel y cedwir y llygredd yn haenen o lysnafedd yn unig.
✅ Gwiriwch y rhaffau, yr ystofau a’r cadwyni am unrhyw anifeiliaid, planhigion neu falurion wrth dynnu angor a’u glanhau (gyda dŵr croyw os yn bosibl) a’u sychu cyn eu storio.
✅ Os yw offer yn cael eu defnyddio dramor, dylid gwneud yn siŵr eu bod yn lân ac yn sych cyn teithio rhwng lleoliadau
Gweler Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch Morol Cymru am wybodaeth am y saith prif faes bioddiogelwch sy’n cwmpasu pob llwybr ym moroedd Cymru. Cliciwch yma am ddolenni ac adnoddaudefnyddiol.