Rhywogaethau estron goresgynnol morol yng Nghymru
Isod mae rhai enghreifftiau o rywogaethau estron goresgynnol morol sy’n peri risg i foroedd Cymru. Mae’n hysbys eisoes bod rhai o’r rhywogaethau estron goresgynnol yn ac yn bridio yng Nghymru. Nid yw eraill wedi’u cofnodi yng Nghymru ar hyn o bryd ond dylid eu monitro; gelwir y rhain yn ‘rhywogaethau ar y gorwel’ (wedi’u hamlygu mewn oren) . Mae’n bwysig nodi rhywogaethau a allai fod ar y gorwel fel y gellir rhoi camau bioddiogelwch ar waith i atal eu cyflwyno, neu fel y gellir rhoi rhaglenni monitro ar waith i gynorthwyo canfod ac ymateb yn amserol.

Cragen blisgyn America
(Ensis leei)
Sut maent yn ymledu:
- Mae’r rhai ifanc (larfâu) yn arnofio’n rhydd yn y dŵr am oddeutu pedair wythnos, ac felly gallant gael eu cludo mewn dŵr balast, yn ogystal â’r dŵr a gaiff ei gludo gyda physgod cregyn a ffermir.
- Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn drech na physgod cregyn brodorol ac yn eu trechddisodli.
- Gall niferoedd mawr ddifrodi offer pysgota neu greu peryglon i bobl sy’n gweithio ym maes dyframaethu.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

Ewin mochyn America
(Crepidula fornicata)
Sut maent yn ymledu:
- Mae’r rhai ifanc (larfâu) yn nofio yn y dŵr am oddeutu pum wythnos, ac felly gallant gael eu cludo mewn dŵr balast a dŵr gwaelodion llong, yn ogystal â’r dŵr a gaiff ei gludo gyda physgod cregyn a ffermir.
- Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.
- Maent yn glynu wrth bysgod cregyn, cychod ac offer pysgota, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
- Cânt eu symud mewn gwaddod wedi’i lusgrwydo.
- Cânt eu symud fel abwyd pysgota.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn creu matiau trwchus sy’n mygu rhywogaethau eraill.
- Maent yn drech na rhywogaethau cynhenid ac yn eu trechddisodli.
- Maent yn newid gwely’r môr ac yn lleihau’r lle sydd ar gael i larfâu pysgod cregyn brodorol ymgartrefu ac i bysgod silio.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.

Chwistrell fôr garped
(Didemnum vexillum)
Sut maent yn ymledu:
- Gallant dorri’n ddarnau a all gael eu cludo gan y llanw a cherhyntau, a all wedyn ailgysylltu ac aildyfu mewn mannau eraill. Gall y darnau hyn oroesi am hyd at 30 diwrnod.
- Maent yn glynu wrth gragen cychod, adeiladwaith marina a physgod cregyn a ffermir, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
- Gall darnau oroesi mewn offer a mannau sy’n dal dŵr ar gychod, sy’n golygu y gellir eu cyflwyno i ardaloedd newydd os na chânt eu glanhau’n gywir cyn cael eu defnyddio mewn ardal newydd.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn mygu rhywogaethau brodorol a physgod cregyn a ffermir, gan achosi colled o ran bioamrywiaeth ac elw masnachol.
- Maent yn baeddu offer, cychod a seilwaith, sy’n cynyddu costau a’r amser a gymerir i’w glanhau.
- Maent yn newid cynefinoedd naturiol gwely’r môr, a all effeithio ar ein rhywogaethau brodorol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.

Cranc manegog Tsieina
(Eriocheir sinensis)
Sut maent yn ymledu:
- Gall crancod benywaidd ddodwy rhwng 250,000 ac 1 miliwn o wyau. Mae’r rhai ifanc sydd newydd ddeor (larfâu) yn arnofio’n rhydd yn y dŵr am hyd at ddau fis cyn iddynt setlo a datblygu i ffurf cranc nodweddiadol.
- Gall y rhai ifanc (larfâu) a’r crancod anaeddfed gael eu cludo mewn dŵr balast, dŵr cychod mwd a dŵr gwaelodion llong.
- Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.
- Gall crancod anaeddfed guddio ymhlith rhywogaethau baeddu eraill.
- Gallant oddef ystod eang o amodau amgylcheddol, gan gynnwys dyfroedd llygredig iawn, sy’n cynyddu nifer y safleoedd posibl iddynt eu cytrefu.
- Gallant hefyd deithio pellteroedd hir (cofnodwyd pellteroedd o hyd at 1,500 cilometr) ar eu pennau eu hunain, a gallant ddringo rhwystrau.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn turio o dan lannau afonydd, gan achosi erydu a chynyddu’r risg o lifogydd.
- Maent yn cystadlu â rhywogaethau brodorol ac yn eu bwyta.
- Maent yn achosi problemau i bysgodfeydd trwy niweidio rhwydi a bwyta’r ddalfa.
- Maent yn rhwystro pibellau ac yn difrodi seilwaith.
- Mae crancod yn treulio rhwng dwy a phum mlynedd mewn dŵr croyw, ac yn mudo i amgylcheddau aberol a morol yn yr hydref i fridio. Unwaith y bydd y rhai ifanc (larfâu) yn dechrau datblygu’n grancod anaeddfed, maent yn mudo’n ôl i fyny’r afon, gan gyrraedd dŵr croyw yn oedolion. Mae’r ffaith eu bod yn mynd drwy wahanol gyfnodau bywyd sydd yn gofyn am ddŵr croyw a dŵr môr, er mwyn cwblhau eu cylch bywyd, yn golygu y gallant effeithio ar lawer o wahanol rywogaethau a chynefinoedd sy’n agored i niwed.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.

Chwistrell fôr gwmpawd
(Asterocarpa humilis)
Sut maent yn ymledu:
- Maent yn glynu wrth gychod, offer dyframaethu, a physgod cregyn a ffermir.
- Mae ymlediad naturiol y rhai ifanc (larfâu) wedi’i gyfyngu gan fod yr oedolyn yn dal eu gafael ynddynt ar ôl deor, sy’n golygu nad ydynt yn arnofio’n rhydd yn y dŵr.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn mygu rhywogaethau brodorol a physgod cregyn a ffermir, gan achosi colled o ran bioamrywiaeth ac elw masnachol.
- Maent yn rhwystro pibellau mewnlif dŵr.
- Maent yn baeddu cychod, badbontydd ac offer megis angorfeydd ac offer dyframaethu, sy’n cynyddu costau a’r amser a gymerir i’w glanhau.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

Gwymon tafod y cythraul
(Grateloupia turuturu)
Sut maent yn ymledu:
- Maent yn glynu wrth gragen cychod a physgod cregyn, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
- Gall sborau bach (strwythurau atgenhedlu) gael eu cludo mewn dŵr balast ac mewn dŵr sydd wedi’i ddargadw mewn offer.
- Gall edefynnau fynd yn sownd mewn offer, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn gorchuddio gwymon brodorol a chynefinoedd pwysig fel morwellt ac yn eu trechddisodli.
- Maent yn baeddu neu’n mynd yn sownd mewn rhwydi, rhaffau ac offer dyframaethu, sy’n cynyddu costau a’r amser a gymerir i’w glanhau.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

Morwiail asennog
(Undaria pinnatifida)
Sut maent yn ymledu:
- Mae edefynnau yn clymu wrth gragen cychod a physgod cregyn.
- Caiff sborau (strwythurau atgenhedlu) eu cludo mewn dŵr balast neu ddŵr gwaelodion llong, neu yn y dŵr a gludir gyda physgod cregyn.
- Gall sborau oroesi am hyd at ddwy flynedd o dan rai amodau, a gallant oroesi ystod eang o dymereddau sy’n golygu bod ymlediad dros bellteroedd maith yn bosibl.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn ffurfio coedwigoedd trwchus sy’n trechddisodli gwymon brodorol.
- Maent yn baeddu cychod ac adeiladwaith marina, a gallant fynd yn sownd mewn rhwydi, rhaffau ac offer dyframaethu, sy’n cynyddu costau a’r amser a gymerir i’w glanhau.
- Maent yn cymryd lle gwerthfawr y mae ei angen ar bysgod cregyn sy’n bwysig yn fasnachol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

Berdysyn main Japan
(Caprella mutica)
Sut maent yn ymledu:
- Mae’n anodd ei ganfod oherwydd ei faint bychan (fel arfer o dan 50 milimetr).
- Caiff ychydig iawn o oedolion eu symud ar gerhyntau a’r llanw, felly fel ‘ffawdheglwyr’ y cânt eu symud yn bennaf. Cânt eu cludo mewn mannau sy’n dal dŵr neu wrth lynu wrth ddillad ac offer.
- Cânt eu cludo mewn dŵr a gaiff ei symud gyda physgod cregyn neu gallant lynu wrth bysgod cregyn, cychod ac offer.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn cystadlu â rhywogaethau brodorol am fwyd a lle.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

Gwymon sargaso
(Sargassum muticum)
Sut maent yn ymledu:
- Gallant dorri’n ddarnau a all oroesi am hyd at dri mis.
- Gall darnau oroesi mewn offer a mannau sy’n dal dŵr ar gychod, sy’n golygu y gellir eu cyflwyno i ardaloedd newydd os na chânt eu glanhau’n gywir cyn cael eu defnyddio mewn ardal newydd.
- Gall edefynnau a darnau fynd yn sownd mewn propelorau ac offer eraill.
- Gall y llanw a cherhyntau gludo darnau hefyd.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn ffurfio matiau arnofiol mawr sy’n rhwystro dyfrffyrdd ac yn gorchuddio traethau.
- Gallant fynd yn sownd mewn propelorau ac offer pysgota, gan achosi niwsans i’r defnyddiwr a chreu difrod i offer.
- Maent yn gorchuddio gwymon brodorol a chynefinoedd pwysig fel morwellt ac yn eu trechddisodli.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

Y chwistrell fôr arw
(Styela clava)
Sut maent yn ymledu:
- Maent yn glynu wrth gragen cychod, bwiau, rhaffau a physgod cregyn, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
- Mae’r rhai ifanc (larfâu) yn arnofio’n rhydd yn y dŵr am hyd at dri diwrnod.
- Gall y rhai ifanc (larfâu) oroesi mewn offer neu fannau sy’n dal dŵr ar gychod, sy’n golygu y gellir eu cyflwyno i ardaloedd newydd os na chânt eu glanhau’n gywir cyn cael eu defnyddio mewn ardal newydd.
- Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn baeddu cychod ac offer dyframaethu yn ddrwg, sy’n cynyddu costau a’r amser a gymerir i’w glanhau.
- Maent yn mygu pysgod cregyn brodorol a rhai sy’n bwysig yn fasnachol.
- Gall ei arwyneb caled fod yn arwyneb i rywogaethau goresgynnol eraill dyfu arno.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

Anemoni melynrhesog
(Diadumene lineata)
Sut maent yn ymledu:
- Mae’r rhai ifanc (larfâu) yn nofio yn y dŵr am hyd at bythefnos ac felly gallant gael eu cludo mewn dŵr balast a dŵr a gaiff ei gludo gyda physgod cregyn a ffermir.
- Maent yn glynu wrth gychod, bwiau, rhaffau, strwythurau a physgod cregyn, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
- Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn baeddu cychod, offer pysgota a dyframaethu, a strwythurau artiffisial, sy’n cynyddu costau a’r amser a gymerir i’w glanhau.
- Maent yn trechddisodli rhywogaethau brodorol.
- Gallant achosi dirywiad yn nhwf pysgod cregyn a rhwystro eu gallu i fwydo.
- Gallant fwydo ar gregyn gleision ac wystrys ifanc (larfâu), gan leihau eu goroesiad ac felly niferoedd y dalfeydd.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

Bryosoad crych coch
(Watersipora subatra)
Sut maent yn ymledu:
- Maent yn glynu wrth gragen cychod, adeiladwaith marina, cyfarpar a physgod cregyn, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
- Maent yn glynu wrth ddarnau o wymon ac yn drifftio i ardaloedd newydd ac yn eu cytrefu.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn baeddu’n ddrwg. Pan fydd cregyn gleision yn cael eu baeddu gall effeithio ar gynnyrch dyframaethu.
- Gan fod y rhywogaeth hon yn gallu gwrthsefyll paent copr rhag tyfiant, gall dyfu ar gragen cychod sydd wedi’u trin hyd yn oed. Ar ôl iddynt ymsefydlu, maent yn creu arwyneb sy’n caniatáu i rywogaethau estron goresgynnol eraill setlo a thyfu’n haws.
- Gall ffurfio cytrefi mawr sy’n effeithio ar rywogaethau brodorol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

Tiwblynghyren Awstralia
(Ficopomatus enigmaticus)
Sut maent yn ymledu:
- Mae’r rhai ifanc (larfâu) yn arnofio’n rhydd yn y dŵr am hyd at dri mis, ac felly gallant gael eu cludo mewn dŵr balast a dŵr gwaelodion llong yn ystod yr amser hwn.
- Mae’r oedolion yn glynu wrth gragen cychod, offer, strwythurau a physgod cregyn, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
- Maent yn gallu goddef ystod eang o amgylcheddau, gan gynnwys ardaloedd lle mae mewnbwn mawr o ddŵr croyw, megis marinâu.
- Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Gall twf trwchus ffurfio strwythurau mawr sy’n ymdebygu i greigres sy’n newid cynefinoedd.
- Maent yn rhwystro pibellau ac yn baeddu cychod, offer a strwythurau, gan achosi’r angen am waith cynnal a chadw a glanhau costus.
- Gall baeddu drwg fod yn ddigon trwm i suddo badbontydd a chychod bychain.
- Maent yn trechddisodli rhywogaethau brodorol.
- Maent yn gwrthsefyll paent rhag tyfiant, sy’n ei gwneud yn anodd i’w hatal rhag glynu wrth gychod.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

Gwychiad coliog America a Japan
(Urosalpinx cinerea; Ocinebrellus inornatus)
Rhywogaethau ar y Gorwel
Sut maent yn ymledu:
- Mae’r wyau a’r pysgod ifanc yn glynu wrth bysgod cregyn a gallant gael eu symud gyda’r stoc i safle newydd.
- Gan nad oes cyfnod larfa, bychan yw’r ymlediad ar gerhyntau a’r llanw.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn ysglyfaethwyr barus ac yn bwyta wystrys a chregyn gleision, a physgod cregyn brodorol eraill.
- Gallant achosi difrod economaidd sylweddol i ddiwydiannau pysgod cregyn.
I gael rhagor o wybodaeth am wychiad coliog America, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.. I gael rhagor o wybodaeth am wychiad coliog Japan, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. . Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.

Cragen foch rapa wythiennol
(Rapana venosa)
Rhywogaethau ar y Gorwel
Sut maent yn ymledu:
- Mae’r rhai ifanc (larfâu) yn arnofio’n rhydd yn y dŵr rhwng 24 a 80 diwrnod, ac felly gallant gael eu cludo mewn dŵr balast a dŵr gwaelodion llong, yn ogystal â’r dŵr a gaiff ei gludo gyda physgod cregyn a ffermir.
- Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn ysglyfaethwyr barus ac yn bwyta wystrys a chregyn gleision, a physgod cregyn brodorol eraill.
- Gallant achosi difrod economaidd sylweddol i ddiwydiannau pysgod cregyn.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

Cranc glas crafanc flewog
(Hemigrapsus takanoi)
Rhywogaethau ar y Gorwel
Sut maent yn ymledu:
- Mae’r rhai ifanc (larfâu) yn arnofio’n rhydd yn y dŵr am 30 diwrnod, ac felly gallant gael eu cludo mewn dŵr balast a dŵr gwaelodion llong, yn ogystal â’r dŵr a gaiff ei gludo gyda physgod cregyn a ffermir.
- Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.
- Gall oedolion symud gyda chymunedau eraill sy’n baeddu cragen cychod, gan lynu wrth rywogaethau eraill neu guddio mewn agennau.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn trechddisodli crancod brodorol o ran cael bwyd a lle.
- Maent yn bwydo ar gregyn gleision ifanc ac wystrys, a allai ddinistrio stociau dyframaethu a rhywogaethau brodorol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.
Gellir gweld dosbarthiadau presennol rhywogaethau estron goresgynnol o amgylch Cymru (a’r DU yn ehangach) drwy chwilio ar Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Gellir hefyd chwilio am wybodaeth sy’n benodol i rywogaethau ar Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr Borth Gwybodaeth.
Gweler Rhywogaethau Estron Goresgynnol y Môr: Rhestr o’r rhywogaethau yng Nghymru y dylid rhoi blaenoriaeth i’w monitro a chadw golwg arnynt am restr o’r rhywogaethau estron goresgynnol morol sy’n peri’r pryder mwyaf i Gymru.
Cafodd chwe rhywogaeth eu blaenoriaethu ar gyfer cynlluniau gweithredu ar gyfer rhywogaethau yng Nghymru. Mae’r rhain yn darparu cyngor mwy arbenigol ac yn rhestru camau gweithredu posibl y gellid eu cymryd i leihau cyflwyno a lledaenu’r rhywogaeth honno i mewn i foroedd Cymru ac o’u cwmpas:
PDF – Cranc manegog Tsieina, Eriocheir sinensis
PDF – Y chwistrell fôr garped, Didemnum vexillum
PDF – Tiwblynghyren Awstralia, Ficopomatus enigmaticus
PDF – Ewin mochyn America (Crepidula fornicata)
PDF – Gwichiad coliog America, Urosalpinx cinerea
PDF – Gwichiad coliog Asia/Japan, Ocinebrellus inornatus
