Gweithgareddau Hamdden

Mae’r dudalen hon yn esbonio sut y gall gweithgareddau hamdden ledaenu rhywogaethau estron goresgynnol, sut mae rhywogaethau estron goresgynnol yn effeithio ar weithgareddau hamdden, y prif rywogaethau risg uchel, a chanllawiau arfer gorau i leihau eu cyflwyniad a’u lledaeniad.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn a chamau bioddiogelwch a argymhellir yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Llwybr Gweithgareddau Hamdden yng Nghymru (Saesneg yn unig gyda chrynodeb Cymraeg).

Ynglŷn â’r llwybr

Gellir symud anifeiliaid (fel wyau, larfâu, anifeiliaid ifanc neu oedolion) a gwymon (fel darnau neu sborau) rhwng lleoliadau gan gychod dŵr, offer (e.e. cymhorthion arnofio a rheoleiddwyr deifio SCUBA) a dillad (e.e. siwtiau gwlyb). Gall rhywogaethau estron goresgynnol gael eu dal mewn bylchau bach neu fannau sy’n dal dŵr mewn cychod dŵr (e.e. cyrff caiacau).

Gall offer a dillad sy’n cael eu gadael yn llaith ddarparu arwyneb y gall rhywogaethau estron goresgynnol oroesi arno ac yna lledaenu i ardal newydd pan gânt eu defnyddio eto. Gall rhai rhywogaethau estron goresgynnol fod yn anodd eu gweld, yn enwedig fel wyau neu larfâu, ac efallai na fydd defnyddwyr yn ymwybodol eu bod ar neu yn eu hoffer (gan gynnwys snorcelau, rheoleiddwyr, byrddau syrffio, padlau, barcutiaid) a dillad (e.e. dillad nofio a siwtiau gwlyb). Gall offer fod yn anodd eu glanhau hefyd, e.e. ffoiliau gwynt mawr.

Gellir cludo byrddau a chychod dŵr bach yn hawdd dros dir i wahanol gyrff dŵr, gan gysylltu gwahanol leoliadau. Gall amseroedd teithio byr rhwng cyrff dŵr gynyddu’r potensial i organebau oroesi.

Gall digwyddiadau a chystadlaethau hamdden, fel regatas rhwyfo môr a thriathlonau, gyflwyno risg hyd yn oed yn fwy gan y gall nifer o gychod dŵr fod wedi dod o’r tu allan i’r rhanbarth i gymryd rhan yn y digwyddiad. Gweler adnoddau digwyddiadau am wybodaeth am fioddiogelwch mewn digwyddiadau, gan gynnwys templed cynllun bioddiogelwch digwyddiad.

Sut mae rhywogaethau estron goresgynnol yn effeithio ar weithgareddau hamdden?

  • Rhwystro gweithgareddau:
    Gall gwymon fel gwifrwymon Japan greu matiau arnofiol enfawr a all glymu o amgylch pobl ac offer. Gall y matiau rwystro golau neu suddo a mygu cynefinoedd gwely’r môr, gan effeithio ar y bywyd morol a allai fod wedi denu deifwyr SCUBA a snorcelwyr i ymweld. Gall matiau algâu atal byrddau, canŵod, caiacau a llongau eraill rhag gallu symud drwy’r dŵr.

 

  • Creu amgylchedd annymunol:
    Gall y gwymon hyn olchi i fyny ar draethau, yn aml mewn symiau mawr iawn, lle gallant bydru, gan ryddhau arogleuon annymunol neu niweidiol. Gall rhywogaethau estron goresgynnol hefyd greu amodau annymunol a hyd yn oed peryglus i ddefnyddwyr hamdden. Gall berdysyn main Japan lynu wrth ddillad nofio, offer a gwallt mewn niferoedd mawr a gall wystrys Portiwgal, sydd â chragen finiog, danheddog ac yn ffurfio riffiau trwchus, achosi toriadau a chrafiadau i bobl ac anifeiliaid anwes.

Caiacwyr – Keith Peek

Enghraifft o INNS sy’n berthnasol i gychod hamdden

Berdysyn main Japan

(Caprella mutica)

Sut maent yn ymledu:

  • Mae’n anodd ei ganfod oherwydd ei faint bychan (fel arfer o dan 50 milimetr).
  • Caiff ychydig iawn o oedolion eu symud ar gerhyntau a’r llanw, felly fel ‘ffawdheglwyr’ y cânt eu symud yn bennaf. Cânt eu cludo mewn mannau sy’n dal dŵr neu wrth lynu wrth ddillad ac offer.
  • Cânt eu cludo mewn dŵr a gaiff ei symud gyda physgod cregyn neu gallant lynu wrth bysgod cregyn, cychod ac offer.

Pam eu bod nhw’n broblem:

  • Maent yn cystadlu â rhywogaethau brodorol am fwyd a lle.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

📸 © Perdysen Caprella mutica – Hans Hillewaert

Gwymon sargaso

(Sargassum muticum)

Sut maent yn ymledu:

  • Gallant dorri’n ddarnau a all oroesi am hyd at dri mis.
  • Gall darnau oroesi mewn offer a mannau sy’n dal dŵr ar gychod, sy’n golygu y gellir eu cyflwyno i ardaloedd newydd os na chânt eu glanhau’n gywir cyn cael eu defnyddio mewn ardal newydd.
  • Gall edefynnau a darnau fynd yn sownd mewn propelorau ac offer eraill.
  • Gall y llanw a cherhyntau gludo darnau hefyd.

Pam eu bod nhw’n broblem:

  • Maent yn ffurfio matiau arnofiol mawr sy’n rhwystro dyfrffyrdd ac yn gorchuddio traethau.
  • Gallant fynd yn sownd mewn propelorau ac offer pysgota, gan achosi niwsans i’r defnyddiwr a chreu difrod i offer.
  • Maent yn gorchuddio gwymon brodorol a chynefinoedd pwysig fel morwellt ac yn eu trechddisodli.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

📸 © Chwistrell fôr arw – John Bishop (MBA)

Chwistrell fôr garped

(Didemnum vexillum)

Sut maent yn ymledu:

  • Gallant dorri’n ddarnau a all gael eu cludo gan y llanw a cherhyntau, a all wedyn ailgysylltu ac aildyfu mewn mannau eraill. Gall y darnau hyn oroesi am hyd at 30 diwrnod.
  • Maent yn glynu wrth gragen cychod, adeiladwaith marina a physgod cregyn a ffermir, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
  • Gall darnau oroesi mewn offer a mannau sy’n dal dŵr ar gychod, sy’n golygu y gellir eu cyflwyno i ardaloedd newydd os na chânt eu glanhau’n gywir cyn cael eu defnyddio mewn ardal newydd.

Pam eu bod nhw’n broblem:

  • Maent yn mygu rhywogaethau brodorol a physgod cregyn a ffermir, gan achosi colled o ran bioamrywiaeth ac elw masnachol.
  • Maent yn baeddu offer, cychod a seilwaith, sy’n cynyddu costau a’r amser a gymerir i’w glanhau.
  • Maent yn newid cynefinoedd naturiol gwely’r môr, a all effeithio ar ein rhywogaethau brodorol.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.

📸 © Chwistrell môr Didemnum vexillum – Joe Ironside

Gwymon tafod y cythraul

(Grateloupia turuturu)

Sut maent yn ymledu:

  • Maent yn glynu wrth gragen cychod a physgod cregyn, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
  • Gall sborau bach (strwythurau atgenhedlu) gael eu cludo mewn dŵr balast ac mewn dŵr sydd wedi’i ddargadw mewn offer.
  • Gall edefynnau fynd yn sownd mewn offer, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.

Pam eu bod nhw’n broblem:

  • Maent yn gorchuddio gwymon brodorol a chynefinoedd pwysig fel morwellt ac yn eu trechddisodli.
  • Maent yn baeddu neu’n mynd yn sownd mewn rhwydi, rhaffau ac offer dyframaethu, sy’n cynyddu costau a’r amser a gymerir i’w glanhau.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

📸 © Gwymon tafodog Grateloupia turuturu – Chris Wood (MBA)

Canllawiau arfer gorau

Arfer gorau i badlwyr:

✅ Gwnewch yn siŵr fod byrddau padlo, caiacau, byrddau syrffio neu offer chwaraeon dŵr eraill yn rhydd o falurion a bod unrhyw ddŵr llonydd (e.e. mewn agennau) yn cael ei ddraenio a’i sychu. Defnyddiwch dywel neu sbwng i sychu arwynebau’n drylwyr.

✅ Golchwch a sychwch offer ychwanegol (e.e. cymhorthion arnofio, bagiau sych).

✅ Os yw offer yn cael eu defnyddio dramor, dylid gwneud yn siŵr eu bod yn lân ac yn sych cyn teithio rhwng lleoliadau.

Bwrdd Syrffio – Chloe Powell Jennings

Arfer gorau ar gyfer nofwyr môr a deifwyr SCUBA:

✅ Gwnewch yn siŵr fod siwtiau gwlyb, dillad ac offer (gan gynnwys dyfeisiau rheoli hynofedd (BCD), gwregysau pwysau a rheolyddion) yn cael eu gwirio a’u glanhau (a’u sychu os yn bosibl) cyn eu defnyddio nesaf.

✅ Os ydych chi’n ymweld â mwy nag un ardal mewn cyfnod byr, dylid defnyddio dillad ac offer sbâr a sych yn yr ail ardal, os yn bosibl. Os nad yw’n bosibl, dylid gwirio a glanhau dillad ac offer cyn gadael ardal, gan sicrhau bod unrhyw ddeunydd anifeiliaid/planhigion yn cael ei gadw yn y safle hwnnw ac nad yw’n cael ei symud i’r ardal nesaf.

✅ Glanhewch unrhyw becyn, offer a dillad (gan gynnwys cyfarpar diogelu personol), yn ddelfrydol gyda dŵr croyw, gan roi sylw i fannau sy’n dal dŵr neu ardaloedd sy’n anodd eu cyrraedd.

✅ Sychwch offer a dillad cyhyd â phosibl rhwng defnyddiau.

Gweler Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch Morol Cymru am wybodaeth am y saith prif faes bioddiogelwch sy’n cwmpasu pob llwybr ym moroedd Cymru. Cliciwch yma am ddolenni ac adnoddaudefnyddiol.

Rhydd-ddeifio – Raymond Beasant