Pysgota (ar gwch ac ar y lan)
Mae’r dudalen hon yn esbonio sut y gall pysgota ledaenu rhywogaethau estron goresgynnol, sut mae rhywogaethau estron goresgynnol yn effeithio ar weithgareddau pysgota, y prif rywogaethau risg uchel, a chanllawiau arfer gorau i leihau eu cyflwyniad a’u lledaeniad.
Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn a chamau bioddiogelwch a argymhellir yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Llwybr Pysgota yng Nghymru (*Cynllun Gweithredu ar gyfer y Llwybr Pysgota ar y Lan) ac (*Cynllun Gweithredu ar gyfer y Llwybr Pysgota mewn Cwch). *Saesneg yn unig gyda chrynodeb Cymraeg.
Ynglŷn â’r llwybr
Pysgota mewn cwch
Biolygru (neu lygredd biolegol) yw cronni a thyfiant organebau (planhigion, anifeiliaid, bacteria a malurion), gan gynnwys rhywogaethau estron goresgynnol, ar arwynebau tanddwr. Mae organebau biolygru cyffredin yn cynnwys chwistrellau môr, cregyn llong a sbyngau.
Gall rhywogaethau estron goresgynnol ledaenu drwy’r dulliau canlynol:
- Biolygredd ar offer pysgota, neu fynd yn sownd yn yr offer (e.e. potiau, rhaffau, rhwydi ac ati)
- Biolygredd ar gyrff, arwynebau a chilfachau cychod (e.e. llafnau gwthio cychod, angorau a phibellau)
- Taflu sgil-ddal anfrodorol (e.e. pan fydd prosesu ar y gweill)
Gall biolygredd gronni’n gyflym os gadewir cwch yn yr un lle yn y dŵr am wythnosau neu’n hirach. Os caiff y cwch ei symud wedyn neu os yw’n teithio i leoliad gwahanol heb gael ei lanhau yn gyntaf, gall y rhywogaethau sydd wedi cronni ar y cwch ledaenu i’r lleoliad newydd hwn. Mae hyd yn oed cychod â phaent neu orchuddion gwrthlygru mewn perygl o lygredd gan rywogaethau estron goresgynnol oherwydd bod rhai rhywogaethau estron goresgynnol yn gwrthsefyll effeithiau haenau gwrthlygru.
Gall glanhau cychod sydd wedi’u llygru yn y dŵr, neu lanhau ar y lan lle mae malurion yn cael eu golchi’n syth yn ôl i’r môr, ganiatáu i rywogaethau estron goresgynnol oroesi a sefydlu yn yr ardal. Gall darnau gael eu cludo gyda’r llanw a’r ceryntau i ardaloedd newydd.
Gall taflu sgil-ddal anfrodorol i ffwrdd o’r safle y cafodd ei bysgota ohono ledaenu rhywogaethau estron goresgynnol. Er enghraifft, prosesu dalfeydd tra bo’n mynd a thaflu rhywogaethau estron goresgynnol (e.e. yr ewin mochyn) sydd wedi’u codi ynghlwm wrth rywogaethau targed (e.e. cregyn bylchog neu gregyn moch) i’r môr. Gall rhai rhywogaethau estron goresgynnol sy’n sgil-ddal hefyd aros ar y cwch a chael eu hysgubo i ddyfroedd y porthladd glanio pan fydd dec y cwch yn cael ei lanhau. Efallai y bydd y rhywogaethau estron goresgynnol hyn sydd wedi’u taflu yn gallu ymsefydlu yn yr ardal dderbyn, neu gallant gynnwys wyau a larfâu sy’n goroesi, yn tyfu ac yn y pen draw yn ymsefydlu.
Gweler y Cynllun Gweithredu ar gyfer Llwybr Pysgota mewn Cychod am ragor o wybodaeth.
Pysgota ar y lan
Gall rhywogaethau estron goresgynnol ledaenu drwy’r dulliau canlynol:
- Mynd yn sownd / ymlynu wrth offer a dillad
- Gall offer pysgota (gwialenni, leiniau, rhwydi a chribynnau) a dillad (e.e. esgidiau pysgota ac esgidiau eraill) gael eu gorchuddio â rhywogaethau estron goresgynnol
- Gall deunyddiau amsugnol fel rhwydi, dillad a chyfarpar diogelu personol drosglwyddo larfâu, wyau a sborau bach a all oroesi am ddyddiau/wythnosau mewn amodau llaith
- Rhywogaethau estron goresgynnol yn tyfu ar offer pysgota llonydd wedi’u trochi
- Defnyddio rhywogaethau estron goresgynnol byw (neu rywogaethau estron goresgynnol marw sy’n cario wyau) fel abwyd
Gellir trosglwyddo rhywogaethau estron goresgynnol rhwng lleoliadau, yn enwedig pan ymwelir â sawl safle pysgota o fewn yr un ychydig ddyddiau neu wythnosau. Os defnyddir rhywogaethau estron goresgynnol byw (e.e. yr ewin mochyn) fel abwyd pysgota, mae risg y byddant yn dianc / yn cael eu rhyddhau, neu, os mai dim ond yn ddiweddar y lladdwyd yr abwyd, gallai unrhyw wyau y gallai fod yn eu cario gael eu rhyddhau. Gall organebau hefyd ledaenu yn neu ar y deunyddiau pacio a gludir gydag abwyd – er enghraifft, gall rhywogaethau estron goresgynnol fod ynghlwm wrth wymon neu mewn llaid, gan eu gwneud yn anodd eu gweld.
Gweler y Cynllun Gweithredu ar gyfer Llwybr Pysgota ar y Lan am ragor o wybodaeth.
Sut mae rhywogaethau estron goresgynnol yn effeithio ar weithrediadau pysgota?
- Cystadlu am adnoddau:
Gall rhywogaethau estron goresgynnol gystadlu am le a bwyd â rhywogaethau pysgodfeydd brodorol. Gall hyn arwain at ostyngiad yn nifer y pysgod, pysgod cregyn a mwydod abwyd brodorol a gallai arwain at golli busnes i gwmnïau neu berchnogion cychod pysgota.
- Mynd yn sownd a llai o fynediad:
Gall rhywogaethau estron goresgynnol gynyddu lefelau sgil-ddalfeydd, mynd yn sownd mewn offer pysgota, a gwneud ardaloedd pysgota yn llai hygyrch. Mae’n hysbys bod crancod manegog Tsieina yn cymryd abwyd o leiniau pysgota, yn ogystal ag ysglyfaethu’n helaeth ar rywogaethau dal targed. abwyd o leiniau pysgota, yn ogystal ag ysglyfaethu’n helaeth ar rywogaethau dal targed.
- Mwy o lusgo, rhwystr a difrod i gychod:
Ar gyrff cychod, gall dwyseddau uchel o fiolygredd arwain at fwy o lusgo wrth deithio, sy’n golygu costau tanwydd, glanhau a gwrthlygredd uwch. Gall rhai rhywogaethau estron goresgynnol, fel tiwblynghyren Awstralia, lynu wrth gyrff a rhannau metel o gychod sydd o dan y dŵr ac mae cael gwared â nhw’n gostus ac yn cymryd llawer o amser. Gall cael gwared ar rywogaethau caled sy’n llygru achosi niwed i baent, haenau a’r gorff ei hun.
- Costau a chyfyngiadau symud:
Efallai y bydd angen mwy o waith glanhau a chynnal a chadw mewn marinas a harbyrau os oes dwysedd uchel o rywogaethau estron goresgynnol. Gallai hyn arwain at gostau’n cael eu trosglwyddo o reolwyr marinas i berchnogion cychod (e.e. mewn ffioedd docio/angori neu gostau aelodaethau uwch). Gellir gwrthod mynediad i gychod sydd wedi’u llygru’n drwm, gan gyfyngu ar symudiadau.
- Clefyd:
Gall rhywogaethau estron goresgynnol ledaenu clefydau i rywogaethau brodorol. Er enghraifft, gall cimwch America gario bacteria sy’n achosi clefyd y gynffon goch (a elwir hefyd yn gaffcemia). Mae’r clefyd hwn yn effeithio’n arbennig ar y cimwch Ewropeaidd brodorol a gall arwain at farwolaethau sylweddol.
- Newid i gynefinoedd:
Gall rhywogaethau estron goresgynnol newid cynefinoedd mewn ffyrdd sy’n eu gwneud yn anaddas ar gyfer goroesiad rhywogaethau brodorol. Er enghraifft, gall y chwistrell fôr garped fygu gwelyau graean a ddefnyddir gan rywogaethau pysgod fel y pennog, a all atal dodwy wyau ac yn y pen draw leihau niferoedd yr oedolion.
Pentwr o ewin moch wedi glynu wrth wichiad – Charlotte Colvin
Gwymon sargaso yn gorchuddio cawell cimychiaid – Andy Riches
Enghraifft o INNS sy’n berthnasol i bysgota

Ewin mochyn America
(Crepidula fornicata)
Sut maent yn ymledu:
- Mae’r rhai ifanc (larfâu) yn nofio yn y dŵr am oddeutu pum wythnos, ac felly gallant gael eu cludo mewn dŵr balast a dŵr gwaelodion llong, yn ogystal â’r dŵr a gaiff ei gludo gyda physgod cregyn a ffermir.
- Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.
- Maent yn glynu wrth bysgod cregyn, cychod ac offer pysgota, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
- Cânt eu symud mewn gwaddod wedi’i lusgrwydo.
- Cânt eu symud fel abwyd pysgota.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn creu matiau trwchus sy’n mygu rhywogaethau eraill.
- Maent yn drech na rhywogaethau cynhenid ac yn eu trechddisodli.
- Maent yn newid gwely’r môr ac yn lleihau’r lle sydd ar gael i larfâu pysgod cregyn brodorol ymgartrefu ac i bysgod silio.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.
–
📸 © Ewin mochyn, Bae Abertawe – Chloe Powell Jennings

Chwistrell fôr garped
(Didemnum vexillum)
Sut maent yn ymledu:
- Gallant dorri’n ddarnau a all gael eu cludo gan y llanw a cherhyntau, a all wedyn ailgysylltu ac aildyfu mewn mannau eraill. Gall y darnau hyn oroesi am hyd at 30 diwrnod.
- Maent yn glynu wrth gragen cychod, adeiladwaith marina a physgod cregyn a ffermir, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
- Gall darnau oroesi mewn offer a mannau sy’n dal dŵr ar gychod, sy’n golygu y gellir eu cyflwyno i ardaloedd newydd os na chânt eu glanhau’n gywir cyn cael eu defnyddio mewn ardal newydd.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn mygu rhywogaethau brodorol a physgod cregyn a ffermir, gan achosi colled o ran bioamrywiaeth ac elw masnachol.
- Maent yn baeddu offer, cychod a seilwaith, sy’n cynyddu costau a’r amser a gymerir i’w glanhau.
- Maent yn newid cynefinoedd naturiol gwely’r môr, a all effeithio ar ein rhywogaethau brodorol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.
–
📸 © Chwistrell môr Didemnum vexillum – Joe Ironside

Cranc manegog Tsieina
(Eriocheir sinensis)
Sut maent yn ymledu:
- Gall crancod benywaidd ddodwy rhwng 250,000 ac 1 miliwn o wyau. Mae’r rhai ifanc sydd newydd ddeor (larfâu) yn arnofio’n rhydd yn y dŵr am hyd at ddau fis cyn iddynt setlo a datblygu i ffurf cranc nodweddiadol.
- Gall y rhai ifanc (larfâu) a’r crancod anaeddfed gael eu cludo mewn dŵr balast, dŵr cychod mwd a dŵr gwaelodion llong.
- Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.
- Gall crancod anaeddfed guddio ymhlith rhywogaethau baeddu eraill.
- Gallant oddef ystod eang o amodau amgylcheddol, gan gynnwys dyfroedd llygredig iawn, sy’n cynyddu nifer y safleoedd posibl iddynt eu cytrefu.
- Gallant hefyd deithio pellteroedd hir (cofnodwyd pellteroedd o hyd at 1,500 cilometr) ar eu pennau eu hunain, a gallant ddringo rhwystrau.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn turio o dan lannau afonydd, gan achosi erydu a chynyddu’r risg o lifogydd.
- Maent yn cystadlu â rhywogaethau brodorol ac yn eu bwyta.
- Maent yn achosi problemau i bysgodfeydd trwy niweidio rhwydi a bwyta’r ddalfa.
- Maent yn rhwystro pibellau ac yn difrodi seilwaith.
- Mae crancod yn treulio rhwng dwy a phum mlynedd mewn dŵr croyw, ac yn mudo i amgylcheddau aberol a morol yn yr hydref i fridio. Unwaith y bydd y rhai ifanc (larfâu) yn dechrau datblygu’n grancod anaeddfed, maent yn mudo’n ôl i fyny’r afon, gan gyrraedd dŵr croyw yn oedolion. Mae’r ffaith eu bod yn mynd drwy wahanol gyfnodau bywyd sydd yn gofyn am ddŵr croyw a dŵr môr, er mwyn cwblhau eu cylch bywyd, yn golygu y gallant effeithio ar lawer o wahanol rywogaethau a chynefinoedd sy’n agored i niwed.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.
–
📸 © Cranc manegog Tsieina – Chloe Powell Jennings

Tiwblynghyren Awstralia
(Ficopomatus enigmaticus)
Sut maent yn ymledu:
- Mae’r rhai ifanc (larfâu) yn arnofio’n rhydd yn y dŵr am hyd at dri mis, ac felly gallant gael eu cludo mewn dŵr balast a dŵr gwaelodion llong yn ystod yr amser hwn.
- Mae’r oedolion yn glynu wrth gragen cychod, offer, strwythurau a physgod cregyn, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
- Maent yn gallu goddef ystod eang o amgylcheddau, gan gynnwys ardaloedd lle mae mewnbwn mawr o ddŵr croyw, megis marinâu.
- Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Gall twf trwchus ffurfio strwythurau mawr sy’n ymdebygu i greigres sy’n newid cynefinoedd.
- Maent yn rhwystro pibellau ac yn baeddu cychod, offer a strwythurau, gan achosi’r angen am waith cynnal a chadw a glanhau costus.
- Gall baeddu drwg fod yn ddigon trwm i suddo badbontydd a chychod bychain.
- Maent yn trechddisodli rhywogaethau brodorol.
- Maent yn gwrthsefyll paent rhag tyfiant, sy’n ei gwneud yn anodd i’w hatal rhag glynu wrth gychod.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.
–
📸 © Tiwblynghyren Awstralia – Paul Brazier, Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwymon sargaso
(Sargassum muticum)
Sut maent yn ymledu:
- Gallant dorri’n ddarnau a all oroesi am hyd at dri mis.
- Gall darnau oroesi mewn offer a mannau sy’n dal dŵr ar gychod, sy’n golygu y gellir eu cyflwyno i ardaloedd newydd os na chânt eu glanhau’n gywir cyn cael eu defnyddio mewn ardal newydd.
- Gall edefynnau a darnau fynd yn sownd mewn propelorau ac offer eraill.
- Gall y llanw a cherhyntau gludo darnau hefyd.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn ffurfio matiau arnofiol mawr sy’n rhwystro dyfrffyrdd ac yn gorchuddio traethau.
- Gallant fynd yn sownd mewn propelorau ac offer pysgota, gan achosi niwsans i’r defnyddiwr a chreu difrod i offer.
- Maent yn gorchuddio gwymon brodorol a chynefinoedd pwysig fel morwellt ac yn eu trechddisodli.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.
–
📸 © Japanese wireweed – John Bishop (MBA)

Cragen foch rapa wythiennol
(Rapana venosa)
Rhywogaethau ar y Gorwel
Sut maent yn ymledu:
- Mae’r rhai ifanc (larfâu) yn arnofio’n rhydd yn y dŵr rhwng 24 a 80 diwrnod, ac felly gallant gael eu cludo mewn dŵr balast a dŵr gwaelodion llong, yn ogystal â’r dŵr a gaiff ei gludo gyda physgod cregyn a ffermir.
- Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn ysglyfaethwyr barus ac yn bwyta wystrys a chregyn gleision, a physgod cregyn brodorol eraill.
- Gallant achosi difrod economaidd sylweddol i ddiwydiannau pysgod cregyn.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.
–
📸 © Veined rapa whelk – Amgueddfa Cymru

Gwychiad coliog America a Japan
(Urosalpinx cinerea; Ocinebrellus inornatus)
Rhywogaethau ar y Gorwel
Sut maent yn ymledu:
- Mae’r wyau a’r pysgod ifanc yn glynu wrth bysgod cregyn a gallant gael eu symud gyda’r stoc i safle newydd.
- Gan nad oes cyfnod larfa, bychan yw’r ymlediad ar gerhyntau a’r llanw.
Pam eu bod nhw’n broblem:
- Maent yn ysglyfaethwyr barus ac yn bwyta wystrys a chregyn gleision, a physgod cregyn brodorol eraill.
- Gallant achosi difrod economaidd sylweddol i ddiwydiannau pysgod cregyn.
I gael rhagor o wybodaeth am wychiad coliog America, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.. I gael rhagor o wybodaeth am wychiad coliog Japan, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. . Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.
–
📸 © American and Japanese oyster drills – Amgueddfa Cymru
Gweler y dudalen polisi a deddfwriaeth am wybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol, llwybrau ar eu cyfer a’r gyfraith.
Arfer gorau ar gyfer pysgotwyr masnachol:
✅ Peidiwch â defnyddio rhywogaethau estron fel abwyd.
✅ Peidiwch â thaflu dal diangen yn ôl i’r môr i ffwrdd o’r man lle cafodd ei ddal (e.e. wrth lanhau deciau wrth deithio). Os amheuir bod rhywogaeth estron oresgynnol o fewn y dal diangen, dylid ei gwaredu’n briodol ar y tir.
✅ Gwnewch yn siŵr nad yw rhwydi, potiau wedi torri na malurion eraill yn cael eu taflu na’u gadael yn y dŵr gan y gall hyn hwyluso cludo rhywogaethau estron goresgynnol. Gwaredwch yr offer hyn yn briodol ar dir.
✅ Golchwch offer i’r un corff dŵr neu eu golchi ymhell o ymyl y dŵr. Er enghraifft, os ydych chi’n tynnu ac yn glanhau’ch rheseli swbliau, dylid eu golchi yn yr ardal y cawsant eu tynnu ohoni neu ar y lan i ffwrdd o ymyl y dŵr lle na all unrhyw weddillion ddychwelyd i’r môr.
✅ Defnyddiwch naill ai gyfleuster golchi casglu gwastraff pan fydd eich cwch yn cael ei dynnu allan neu olchi eich cwch mor bell o ymyl y dŵr ag y gallwch, ymhell uwchben llinell y llanw uchel, a gwneud yn siŵr nad yw dŵr gwastraff a malurion yn mynd yn ôl i’r môr.
Arfer gorau i bysgotwyr:
✅ Peidiwch â defnyddio rhywogaethau estron fel abwyd.
✅ Gwnewch yn siŵr fod yr holl offer a dillad yn cael eu glanhau a’u sychu cyn ac ar ôl eu defnyddio
✅ Os yw offer yn cael eu defnyddio dramor, dylid gwneud yn siŵr eu bod yn lân ac yn sych cyn teithio rhwng lleoliadau
Gweler Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch Morol Cymru am wybodaeth am y saith prif faes bioddiogelwch sy’n cwmpasu pob llwybr ym moroedd Cymru. Cliciwch yma am ddolenni ac adnoddaudefnyddiol.
Pysgota oddi ar y creigiau yn Nhraeth Mwnt – Chloe Powell Jennings