Morgludiant Masnachol

Mae’r dudalen hon yn esbonio sut y gall llongau ledaenu rhywogaethau estron goresgynnol, sut mae rhywogaethau estron goresgynnol yn effeithio ar weithgareddau llongau, y prif rywogaethau risg uchel, a chanllawiau arfer gorau i leihau eu cyflwyniad a’u lledaeniad.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn a chamau bioddiogelwch a argymhellir yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Llwybr Morgludiant Masnachol yng Nghymru (Saesneg yn unig gyda chrynodeb Cymraeg).

Ynglŷn â’r llwybr

Mae morgludiant masnachol yn bwysig ar gyfer cynnal symudiad nwyddau a chefnogi masnach ryngwladol, gyda dros 80% o fasnach fyd-eang (yn ôl cyfaint) yn cael ei chario ar y môr (yn ôl Masnach a Datblygu’r Cenhedloedd Unedig).

Gall rhywogaethau estron goresgynnol ledaenu drwy’r dulliau canlynol:

  • Biolygru ar gyrff llongau ac ardaloedd anodd eu cyrraedd
  • Dŵr balast a gwaddodion balast
  • Biolygru’r tanc mewnol
  • Mynd yn sownd ym mecanweithiau’r llong (e.e. llafnau gwthio, angorau, cadwyni angor)

 

Biolygru

Biolygru (neu lygredd biolegol) yw cronni a thyfiant organebau (planhigion, anifeiliaid, bacteria a malurion), gan gynnwys rhywogaethau estron goresgynnol, ar arwynebau tanddwr. Mae organebau biolygru cyffredin yn cynnwys chwistrellau môr, cregyn llong a sbyngau.

Gall biolygredd gronni’n gyflym os gadewir llong yn yr un lle yn y dŵr am wythnosau neu’n hirach. Os caiff y llong ei symud wedyn neu os yw’n teithio i leoliad gwahanol heb ei glanhau yn gyntaf, gall y rhywogaethau sydd wedi cronni ar y cwch ledaenu i’r lleoliad newydd hwn. Mae hyd yn oed llongau sydd â phaent neu orchuddion gwrthlygru mewn perygl o lygredd gan rywogaethau estron goresgynnol oherwydd bod rhai rhywogaethau estron goresgynnol yn gallu gwrthsefyll effeithiau haenau gwrthlygru.

Gall glanhau llongau wedi’u llygru yn y dŵr, neu lanhau ar y lan lle mae malurion yn cael eu golchi’n syth yn ôl i’r môr, hefyd ganiatáu i rywogaethau estron goresgynnol oroesi a sefydlu yn yr ardal. Gallai darnau a larfâu gael eu cludo i ardaloedd newydd gyda’r llanw a’r ceryntau. Gall glanhau llongau allan o’r dŵr fod yn arbennig o anodd i longau mawr, felly mae cynnal a chadw rheolaidd a defnyddio gwrthlygredd yn allweddol. Gweler yr arfer gorau isod am ragor o wybodaeth.

Mannau anodd eu cyrraedd lle gall biolygredd gronni. Ffynhonnell: Ministry for Primary Industries ac wedi’i drwyddedu gan MPI i’w ailddefnyddio o dan y drwydded Creative Commons Attribution 4.0 International. ‘Ar gael yn Saesneg yn unig’

Dŵr a gwaddodion balast

Mae dŵr balast yn cael ei godi a’i storio mewn tanciau balast mewn llongau i’w sefydlogi tra byddant yn teithio. Tan yn ddiweddar roedd y dŵr hwn yn cael ei ryddhau, heb gyfyngiadau, yn y porthladd ar ben y daith ynghyd ag unrhyw organebau neu egin (wyau neu ddarnau) a oedd wedi’u cymryd i mewn yn y porthladd gwreiddiol.

Daeth y Confensiwn Rheoli Dŵr Balast (gweler y dudalen polisi a deddfwriaeth) i rym yn 2022 ac mae’n golygu bod rhaid cyfnewid (h.y. disodli) dŵr balast o longau perthnasol mewn ardaloedd dynodedig ar y môr neu ei drin i gael gwared ar neu ladd unrhyw organebau a allai fod yn bresennol. Gellir rheoli dŵr balast ar ochr y porthladd hefyd, lle caiff ei symud, ei drin mewn cyfleusterau ar ochr y porthladd, a naill ai ei ddychwelyd i’r llong neu ei ryddhau i’r môr.

Pan gaiff dŵr balast ei gludo mewn llong, mae unrhyw waddodion sydd mewn daliant yn y dŵr yn cael eu cymryd i fyny hefyd. Unwaith y byddant yn y tanciau balast, mae’r gwaddodion hyn yn setlo i waelod y tanc. Er efallai nad yw amodau’n ffafriol i oroesiad llawer o rywogaethau (oherwydd tywyllwch a newidiadau yn nhymheredd y dŵr), gall y gwaddod ddarparu cynefin i rai o’r organebau sy’n goroesi. Felly mae cael gwared ar waddod balast a’i waredu’n briodol hefyd wedi’i gynnwys yn y Confensiwn Rheoli Dŵr Balast a rhaid gwneud darpariaethau ar gyfer cyfleusterau yn y porthladd ar ben y daith.

Cwch tynnu yn gollwng dŵr balast – Ffynhonnell: W.carter, CC0, trwy Wikimedia Commons

Biolygredd ac offer mewnol

Gall tanciau a phibellau mewnol, nad ydynt fel arfer yn cael eu trin ag unrhyw orchudd gwrthlygru, gael eu llygru gan organebau.

Gall rhywogaethau estron goresgynnol fyw ar offer a ddefnyddir yn y dŵr o bryd i’w gilydd (e.e. cadwyni, angorau, ffenders, rhaffau a thendrau). Gall offer sy’n cael eu cludo ar y llong ac sy’n cael eu gadael yn llaith ar y dec neu eu storio mewn cypyrddau angori hefyd ddarparu arwyneb lle gall rhywogaethau estron goresgynnol oroesi ac yna lledaenu i ardal newydd pan gaiff yr offer eu defnyddio eto.

Sut mae rhywogaethau estron goresgynnol yn effeithio ar forgludiant masnachol?

Mwy o lusgo a llai o effeithlonrwydd: Ar gyrff llongau, gall dwyseddau uchel o fiolygredd arwain at fwy o lusgo wrth deithio, sy’n golygu anghenion tanwydd a chostau glanhau uwch. Mae’r Sefydliad Morol Rhyngwladol yn amcangyfrif y gall biolygredd gynyddu’r defnydd o danwydd hyd at 40%, gan arwain at gynnydd sylweddol yn ôl troed carbon a chostau gweithredwr.

Difrod i longau: Gall rhai rhywogaethau estron goresgynnol, fel y diwblynghyren, lynu wrth gyrff a rhannau metel o gychod sydd o dan y dŵr, a rhwystro pibellau mewnlif/all-lif, ac mae cael gwared â nhw’n gostus ac yn cymryd llawer o amser. Gall cael gwared ar rywogaethau llygredd caled o’r fath achosi difrod sylweddol i baentiau, haenau ac adeileddau caled, fel y corff neu’r llafnau gwthio.

Costau cynnal a chadw seilwaith uwch: Gall dwyseddau uchel o rywogaethau estron goresgynnol mewn porthladdoedd a harbyrau arwain at yr angen i gynyddu gwaith glanhau a chynnal a chadw, a all achosi costau sylweddol i awdurdodau harbwr.

Gwrthod mynediad i borthladdoedd: Mae’n bosibl y gwrthodir mynediad i borthladd i longau perthnasol nad ydynt yn cydymffurfio â’r Confensiwn Rheoli Dŵr Balast a/neu y cânt eu cyfarwyddo i dalu cost trin dŵr balast ar ochr y porthladd.

Enghraifft o INNS sy’n berthnasol i longau masnachol

Chwistrell fôr garped

(Didemnum vexillum)

Sut maent yn ymledu:

  • Gallant dorri’n ddarnau a all gael eu cludo gan y llanw a cherhyntau, a all wedyn ailgysylltu ac aildyfu mewn mannau eraill. Gall y darnau hyn oroesi am hyd at 30 diwrnod.
  • Maent yn glynu wrth gragen cychod, adeiladwaith marina a physgod cregyn a ffermir, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
  • Gall darnau oroesi mewn offer a mannau sy’n dal dŵr ar gychod, sy’n golygu y gellir eu cyflwyno i ardaloedd newydd os na chânt eu glanhau’n gywir cyn cael eu defnyddio mewn ardal newydd.

Pam eu bod nhw’n broblem:

  • Maent yn mygu rhywogaethau brodorol a physgod cregyn a ffermir, gan achosi colled o ran bioamrywiaeth ac elw masnachol.
  • Maent yn baeddu offer, cychod a seilwaith, sy’n cynyddu costau a’r amser a gymerir i’w glanhau.
  • Maent yn newid cynefinoedd naturiol gwely’r môr, a all effeithio ar ein rhywogaethau brodorol.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.

📸 © Chwistrell môr Didemnum vexillum – Joe Ironside

Cranc manegog Tsieina

(Eriocheir sinensis)

Sut maent yn ymledu:

  • Gall crancod benywaidd ddodwy rhwng 250,000 ac 1 miliwn o wyau. Mae’r rhai ifanc sydd newydd ddeor (larfâu) yn arnofio’n rhydd yn y dŵr am hyd at ddau fis cyn iddynt setlo a datblygu i ffurf cranc nodweddiadol.
  • Gall y rhai ifanc (larfâu) a’r crancod anaeddfed gael eu cludo mewn dŵr balast, dŵr cychod mwd a dŵr gwaelodion llong.
  • Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.
  • Gall crancod anaeddfed guddio ymhlith rhywogaethau baeddu eraill.
  • Gallant oddef ystod eang o amodau amgylcheddol, gan gynnwys dyfroedd llygredig iawn, sy’n cynyddu nifer y safleoedd posibl iddynt eu cytrefu.
  • Gallant hefyd deithio pellteroedd hir (cofnodwyd pellteroedd o hyd at 1,500 cilometr) ar eu pennau eu hunain, a gallant ddringo rhwystrau.

Pam eu bod nhw’n broblem:

  • Maent yn turio o dan lannau afonydd, gan achosi erydu a chynyddu’r risg o lifogydd.
  • Maent yn cystadlu â rhywogaethau brodorol ac yn eu bwyta.
  • Maent yn achosi problemau i bysgodfeydd trwy niweidio rhwydi a bwyta’r ddalfa.
  • Maent yn rhwystro pibellau ac yn difrodi seilwaith.
  • Mae crancod yn treulio rhwng dwy a phum mlynedd mewn dŵr croyw, ac yn mudo i amgylcheddau aberol a morol yn yr hydref i fridio. Unwaith y bydd y rhai ifanc (larfâu) yn dechrau datblygu’n grancod anaeddfed, maent yn mudo’n ôl i fyny’r afon, gan gyrraedd dŵr croyw yn oedolion. Mae’r ffaith eu bod yn mynd drwy wahanol gyfnodau bywyd sydd yn gofyn am ddŵr croyw a dŵr môr, er mwyn cwblhau eu cylch bywyd, yn golygu y gallant effeithio ar lawer o wahanol rywogaethau a chynefinoedd sy’n agored i niwed.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.

📸 © Cranc manegog Tsieina – Chloe Powell Jennings

Cragen foch rapa wythiennol

(Rapana venosa)

Rhywogaethau ar y Gorwel

Sut maent yn ymledu:

  • Mae’r rhai ifanc (larfâu) yn arnofio’n rhydd yn y dŵr rhwng 24 a 80 diwrnod, ac felly gallant gael eu cludo mewn dŵr balast a dŵr gwaelodion llong, yn ogystal â’r dŵr a gaiff ei gludo gyda physgod cregyn a ffermir.
  • Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.

Pam eu bod nhw’n broblem:

  • Maent yn ysglyfaethwyr barus ac yn bwyta wystrys a chregyn gleision, a physgod cregyn brodorol eraill.
  • Gallant achosi difrod economaidd sylweddol i ddiwydiannau pysgod cregyn.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

📸 © Veined rapa whelk – Amgueddfa Cymru

Gweler y dudalen polisi a deddfwriaeth am wybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol, morgludiant masnachol a’r gyfraith.

Arfer gorau ar gyfer gweithredwyr llongau:

✅ Dilynwch reoliadau dŵr balast fel yr amlinellir yn Rheoliadau Llongau Masnach (Rheolaeth a Rheoli Dŵr Balast a Gwaddodion Llongau) 2022.

✅ Dilynwch ganllawiau biolygredd y Sefydliad Morol Rhyngwladol.

✅ Sicrhewch fod triniaeth gwrthlygredd ar gyrff llongau ac arwynebau tanddwr yn cael ei chynnal a’i hadnewyddu yn ôl yr angen, gan gydymffurfio â Rheoliadau Llongau Masnach (Systemau Gwrth-halogi) 2024

✅ Gwiriwch lygredd ar longau yn rheolaidd a’i dynnu yn ôl yr angen, gan sicrhau bod malurion yn cael eu casglu ac nad ydynt yn mynd yn ôl i’r dŵr.

Arfer gorau ar gyfer awdurdodau a gweithredwyr porthladdoedd:

✅ Tynnwch unrhyw adeileddau ac offer nas defnyddir o’r dŵr (e.e. bwiau, rhaffau, ffenders, ystofau, angorfeydd, ac unrhyw seilwaith diffaith).

✅ Sicrhewch fod triniaeth gwrthlygredd yn cael ei chynnal ar seilwaith tanddwr lle bo’n briodol.

✅ Glanhewch a sychwch seilwaith ac offer cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r safle, eu symud o fewn y safle, neu eu symud oddi arno. Os yn bosibl, glanhewch adeileddau ac offer symudadwy ar dir, gan sicrhau nad yw dŵr gwastraff a malurion yn mynd i mewn i’r dŵr eto.

✅ Manteisiwch i’r eithaf ar unrhyw lif naturiol o ddŵr croyw i mewn i’r safle. Amlygwch rywogaethau estron goresgynnol i ddŵr croyw trwy eu trochi neu eu golchi.

Gweler Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch Morol Cymru am wybodaeth am y saith prif faes bioddiogelwch sy’n cwmpasu pob llwybr ym moroedd Cymru. Cliciwch yma am ddolenni ac adnoddaudefnyddiol.