Rywogaethau Estron Goresgynnol Morol a Bioddiogelwch

Mae’r tudalennau gwe hyn yn darparu hwb hawdd ei ddefnyddio ar gyfer gwybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol morol a bioddiogelwch yng Nghymru. Yma fe welwch wybodaeth am beth yw rhywogaethau estron goresgynnol, sut maen nhw’n cael eu lledaenu, eu heffaith, a beth allwch chi ei wneud i helpu i atal eu cyflwyno a’u lledaenu ym moroedd Cymru. Mae canllawiau ar gamau bioddiogelwch ar gyfer gwahanol weithgareddau a sectorau ar gael yn yr adran Llwybrau ar gyfer Rhywogaethau Estron Goresgynnol Morol yng Nghymru.

Mae’r prosiect hwn wedi cael ei ariannu drwy Raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, er mwyn cryfhau cydnerthedd safleoedd tir a morol gwarchodedig Cymru.

Rhywogaethau Estron Goresgynnol Morol yn Nyfroedd Cymru

Beth yw rhywogaethau estron goresgynnol?

Mae rhywogaethau estron yn blanhigion, anifeiliaid neu bathogenau nad ydynt yn byw’n naturiol mewn ardal ond sydd wedi cael eu symud yno gan weithgareddau dynol (naill ai’n ddamweiniol neu’n fwriadol). Weithiau cyfeirir at rywogaethau estron fel “rhywogaethau anfrodorol” neu “rhywogaethau egsotig” hefyd. Mae 10-12% o rywogaethau estron sydd wedi’u cyflwyno yn achosi effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol neu economaidd sylweddol. Gelwir y rhain yn rhywogaethau estron goresgynnol.

Mae rhywogaethau estron goresgynnol morol yn wydn ac yn aml yn gallu goroesi amodau llym ac amrywiol, gan eu gwneud yn heriol i’w rheoli. Gall llawer o rywogaethau estron goresgynnol oroesi lefelau uchel o sychu, newidiadau tymheredd, ac argaeledd maethynnau isel, gan ganiatáu iddynt barhau mewn amodau llaith am gyfnodau hir. Mae’r gwydnwch yn eu galluogi i deithio pellteroedd hir, gan lynu wrth offer pysgota, cychod, neu ddillad/cyfarpar. Am fyw o wybodaeth, gweler Rhywogaethau Estron Goresgynnol Morol yng Nghymru.

Chwistrell fôr arw wedi glynu wrth granc – Dawn Thomas

Beth yw effeithiau rhywogaethau estron goresgynnol morol?

Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn un o’r pum prif ffactor sy’n achosi colli bioamrywiaeth yn fyd-eang ac amcangyfrifir eu bod yn costio costio £4 biliwn y flwyddyn i economi Prydain. Mae’r effeithiau’n cynnwys y canlynol:

  • Colli rhywogaethau sy’n bwysig yn fasnachol
  • Rheoli costau rhywogaethau estron ymledol
  • Mygu, bwyta a threchddisodli rhywogaethau brodorol (e.e. am fwyd a lle)
  • Newid cynefinoedd (e.e. newid wyneb gwely’r môr ac effeithio ar ecosystemau)
  • Tagu a llygru adeileddau (e.e. offer dyframaethu, cymhorthion mordwyo, pibellau all-lif a phierau)
  • Cyflwyno clefydau, plâu a pharasitiaid
  • Llygru cyrff cychod a llongau (sy’n arwain at fwy o lusgo a chostau tanwydd uwch)

Am fwy o wybodaeth, gweler: Asesu effaith rhywogaethau estron goresgynnol morol allweddol ar nodweddion cynefinoedd Ardaloedd Morol Gwarchodedig, pysgodfeydd a dyframaeth Cymru a Rhywogaethau Estron Goresgynnol Morol yng Nghymru.

Perdys Caprella mutica – Cyfoeth Naturiol Cymru

Sut mae rhywogaethau estron goresgynnol morol yn cyrraedd yma?

Gelwir y ffyrdd y mae rhywogaethau estron goresgynnol yn cael eu symud o un lleoliad i’r llall gan fodau dynol yn “llwybrau”. Mae enghreifftiau o lwybrau rhywogaethau estron goresgynnol morol yn cynnwys morgludiant masnachol, dyframaethu a chychod hamdden.

Gall llwybrau fod dros bellteroedd mawr, gan gyflwyno rhywogaethau estron goresgynnol i ardaloedd newydd y tu allan i’w tiriogaeth frodorol, neu gallant fod dros bellteroedd byr, gan helpu rhywogaeth i ledaenu ymlaen o’i man cyflwyno cychwynnol.

Gweler Rhywogaethau Estron Goresgynnol Morol yng Nghymru am ragor o wybodaeth am sut mae rhywogaethau estron goresgynnol yn cael eu lledaenu gan wahanol lwybrau.

Gall rhywogaethau estron goresgynnol fod yn ficrosgopig a gallant oroesi mewn amodau llaith am gyfnodau hir. Gellir symud anifeiliaid fel wyau, larfâu, anifeiliaid ifanc neu oedolion. Gellir symud gwymon fel darnau neu sborau (eu ffurfiau atgenhedlu). Gall larfâu fod yn blanctonig (yn drifftio gyda’r ceryntau) neu nofio’n rhydd (yn gallu symud yn weithredol).

Bryosoad Watersipora subatra wedi glynu wrth gragen las – Paul Brazier

Beth yw bioddiogelwch?

Mesurau bioddiogelwch yw camau gweithredu, gweithdrefnau ac ymddygiadau a roddir ar waith i leihau’r risg o gyflwyno a lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol. Y dull mwyaf effeithiol o bell ffordd yw atal cyflwyno a lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol yn y lle cyntaf, yn enwedig yn yr amgylchedd morol.

Am wybodaeth am saith prif faes bioddiogelwch, cliciwch yma.

Beth yw cynllun gweithredu bioddiogelwch?

Mae cynllun gweithredu bioddiogelwch yn darparu camau ymarferol ac effeithiol i leihau’r risg o gyflwyno a lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol i ardal/safle penodol neu ar gyfer gweithgaredd penodol. Gweler Dolenni ac adnoddau am wybodaeth ar sut i ysgrifennu cynllun bioddiogelwch.

Mae cynlluniau gweithredu bioddiogelwch wedi’u datblygu ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol yng Nghymru. Mae cynllun gweithredu bioddiogelwch morol cenedlaethol ar gyfer Cymru hefyd wedi’i lunio. Mae’r wybodaeth allweddol o’r cynlluniau gweithredu bioddiogelwch hyn wedi’i chrynhoi ar y wefan hon i’ch helpu i ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch yn gyflym. Gweler Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch Morol Cymru am ragor o wybodaeth a dolenni i’r dogfennau llawn.