Dyframaethu

Mae’r dudalen hon yn esbonio sut y gall dyframaethu ledaenu rhywogaethau estron goresgynnol, sut mae rhywogaethau estron goresgynnol yn effeithio ar ddyframaethu, y prif rywogaethau risg uchel, a chanllawiau arfer gorau i leihau eu cyflwyniad a’u lledaeniad.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn, ynghyd â chamau bioddiogelwch a awgrymir, yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Llwybr Dyframaethu yng Nghymru (Saesneg yn unig gyda chrynodeb Cymraeg).

Ynglŷn â’r llwybr

Mae dyframaethu yn cyfeirio at ffermio organebau dyfrol, fel pysgod, pysgod cregyn a gwymon, at ddibenion bwyd, hamdden a gwyddonol. Mae’n sector cynhyrchu bwyd môr allweddol ym moroedd Cymru.

Biolygru (neu lygredd biolegol) yw cronni a thyfiant organebau (planhigion, anifeiliaid, bacteria a malurion), gan gynnwys rhywogaethau estron goresgynnol, ar arwynebau tanddwr. Mae organebau biolygru cyffredin yn cynnwys chwistrellau môr, cregyn llong a sbyngau.

Gall biolygru gronni’n gyflym os gadewir offer ac arwynebau tanddwr eraill yn yr un lle yn y dŵr am wythnosau neu’n hirach.

Gall rhywogaethau estron goresgynnol ledaenu drwy’r dulliau canlynol:

  • Biolygredd ar offer a deunyddiau dyframaethu (gan gynnwys cychod, trestlau, tractorau a deunyddiau pacio)
  • Glynu wrth stoc ac yna’n symud rhwng safleoedd
  • Trosglwyddo mewn dŵr ynghyd â stoc
  • Stoc yn dianc (os yw’n rhywogaeth estron oresgynnol)
  • Symudiad staff rhwng safleoedd (e.e. esgidiau staff wedi’u llygru/halogi, esgidiau pysgota, siwtiau sych, a chymhorthion arnofio a cherbydau)

Gall symud offer wedi’u llygru rhwng safleoedd beryglu lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol i leoliad newydd. Os nad yw offer yn symud y tu hwnt i’r safle tyfu, mae’r risg bioddiogelwch yn cael ei lleihau ond gall biolygru fod yn ffynhonnell rhywogaethau estron goresgynnol o hyd, a allai wedyn ledaenu y tu hwnt i’r safle tyfu trwy ddulliau naturiol (h.y. ar geryntau cefnfor).

Gall symud pysgod cregyn (a deunyddiau pecynnu a dŵr) sydd wedi’u llygru, gan gynnwys gyda rhywogaethau estron goresgynnol, i mewn i safle tyfu ac oddi yno arwain at gyflwyno/lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol.

Mae’n debygol y bydd y risg o gyflwyno rhywogaethau estron goresgynnol i safle o ganlyniad i symud stoc yn cael ei lleihau os yw’r stoc sy’n cael ei symud yn cael ei chynhyrchu mewn amgylchedd rheoledig neu ddi-haint.

Er bod canllawiau arfer da yn bodoli i leihau’r risg bioddiogelwch a achosir gan symudiadau stoc (gweler y Dolenni ac Adnoddau), nid yw’r arferion hyn yn anffaeledig, oherwydd yr heriau o ganfod ac adnabod rhywogaethau estron goresgynnol.

Er bod y ddeddfwriaeth bresennol yn atal tyfu rhywogaethau estron goresgynnol os na ellir rheoli’r risg o’u dianc i’r gwyllt, mae rhywogaethau estron goresgynnol sy’n cael eu tyfu’n fasnachol yn bodoli o ganlyniad i ganiatadau hanesyddol. Er enghraifft, mae wystrysen Portiwgal (wedi’i dosbarthu fel rhywogaeth estron oresgynnol) yn cael ei thyfu’n gyfreithlon yn y DU ac mae’n rhywogaeth bwysig yn fasnachol. Er gwaethaf defnyddio dulliau i leihau’r risg o ymsefydlu a lledaenu, fel tyfu wystrys Portiwgal triploid, mae dianc stoc hyfyw a lledaeniad a gyfryngir gan bobl yn parhau i fod yn risg bosibl.

Ewinedd moch wedi glynu ar gragen las – Paul Brazier

Tractor yn cludo trestlau wystrys budr – Joe Ironside

Cragen foch Rapana venosa – Amgueddfa Cymru

Sut mae rhywogaethau estron goresgynnol yn effeithio ar weithrediadau dyframaethu?

  • Mwy o lusgo ac effeithlonrwydd offer llai:
    Mae biolygru ar offer dyframaethu yn ychwanegu pwysau a llusgo, a all arwain at ddifrod i offer. Mae biolygru ar gychod yn cynyddu llusgo, gan eu gwneud yn llai effeithlon, gan arwain at gostau tanwydd uwch. Amcangyfrifir bod 10-30% o gostau gweithredu dyframaethu blynyddol yn deillio o’r gwaith glanhau a chynnal a chadw sy’n ofynnol i reoli rhywogaethau estron goresgynnol.
  • Cystadlu am adnoddau:
    Gall rhywogaethau estron goresgynnol gystadlu am le a maetholion â stoc dyframaethu. Gall rhywogaethau estron goresgynnol leihau llif dŵr, a all amharu ar y cyflenwad ocsigen a bwyd, gan effeithio ar iechyd, twf a chyflwr stoc.
  • Rhwystrau i gytrefiad larfâu:
    Gall ymlyniad a chytrefiad larfâu ar y swbstrad gael eu lleihau neu eu rhwystro os yw’r swbstrad wedi’i lygru gan rywogaethau estron goresgynnol. Mae hyn yn lleihau effeithlonrwydd dal sil gwyllt a gall leihau cynnyrch a phroffidioldeb gweithrediadau tyfu.
  • Effaith uniongyrchol ar bysgod cregyn:
    Gall biolygru niweidio stoc yn ffisegol, rhwystro bwydo, a pheryglu twf a chyflwr cyffredinol, gan leihau ansawdd a marchnadwyedd y stoc. Gall biolygru arwain at gyfyngiadau ar symud stoc rhwng lleoliadau oherwydd presenoldeb rhywogaethau estron goresgynnol.
  • Ysglyfaethu, parasitiaid a phathogenau:
    Gall rhywogaethau estron goresgynnol fwydo’n uniongyrchol ar stoc neu gyflwyno pathogenau a pharasitiaid, gan arwain at farwolaethau a chyflwr stoc is.

Enghraifft o INNS sy’n berthnasol i dyframaethu

Ewin mochyn America

(Crepidula fornicata)

Sut maent yn ymledu:

  • Mae’r rhai ifanc (larfâu) yn nofio yn y dŵr am oddeutu pum wythnos, ac felly gallant gael eu cludo mewn dŵr balast a dŵr gwaelodion llong, yn ogystal â’r dŵr a gaiff ei gludo gyda physgod cregyn a ffermir.
  • Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.
  • Maent yn glynu wrth bysgod cregyn, cychod ac offer pysgota, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
  • Cânt eu symud mewn gwaddod wedi’i lusgrwydo.
  • Cânt eu symud fel abwyd pysgota.

Pam eu bod nhw’n broblem:

  • Maent yn creu matiau trwchus sy’n mygu rhywogaethau eraill.
  • Maent yn drech na rhywogaethau cynhenid ac yn eu trechddisodli.
  • Maent yn newid gwely’r môr ac yn lleihau’r lle sydd ar gael i larfâu pysgod cregyn brodorol ymgartrefu ac i bysgod silio.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.

📸 © American slipper limpet, Swansea Bay – Chloe Powell Jennings

Chwistrell fôr garped

(Didemnum vexillum)

Sut maent yn ymledu:

  • Gallant dorri’n ddarnau a all gael eu cludo gan y llanw a cherhyntau, a all wedyn ailgysylltu ac aildyfu mewn mannau eraill. Gall y darnau hyn oroesi am hyd at 30 diwrnod.
  • Maent yn glynu wrth gragen cychod, adeiladwaith marina a physgod cregyn a ffermir, a phan gaiff y rhain eu symud gall achosi iddynt ymledu.
  • Gall darnau oroesi mewn offer a mannau sy’n dal dŵr ar gychod, sy’n golygu y gellir eu cyflwyno i ardaloedd newydd os na chânt eu glanhau’n gywir cyn cael eu defnyddio mewn ardal newydd.

Pam eu bod nhw’n broblem:

  • Maent yn mygu rhywogaethau brodorol a physgod cregyn a ffermir, gan achosi colled o ran bioamrywiaeth ac elw masnachol.
  • Maent yn baeddu offer, cychod a seilwaith, sy’n cynyddu costau a’r amser a gymerir i’w glanhau.
  • Maent yn newid cynefinoedd naturiol gwely’r môr, a all effeithio ar ein rhywogaethau brodorol.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.

📸 © Chwistrell môr Didemnum vexillum – Joe Ironside

Gwychiad coliog America a Japan

(Urosalpinx cinerea; Ocinebrellus inornatus)

Rhywogaethau ar y Gorwel

Sut maent yn ymledu:

  • Mae’r wyau a’r pysgod ifanc yn glynu wrth bysgod cregyn a gallant gael eu symud gyda’r stoc i safle newydd.
  • Gan nad oes cyfnod larfa, bychan yw’r ymlediad ar gerhyntau a’r llanw.

Pam eu bod nhw’n broblem:

  • Maent yn ysglyfaethwyr barus ac yn bwyta wystrys a chregyn gleision, a physgod cregyn brodorol eraill.
  • Gallant achosi difrod economaidd sylweddol i ddiwydiannau pysgod cregyn.

I gael rhagor o wybodaeth am wychiad coliog America, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.. I gael rhagor o wybodaeth am wychiad coliog Japan, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. . Mae dolen i’r cynllun gweithredu ar gyfer rhywogaethau i’w chael yma.

📸 © American and Japanese oyster drills – Amgueddfa Cymru

Cragen foch rapa wythiennol

(Rapana venosa)

Rhywogaethau ar y Gorwel

Sut maent yn ymledu:

  • Mae’r rhai ifanc (larfâu) yn arnofio’n rhydd yn y dŵr rhwng 24 a 80 diwrnod, ac felly gallant gael eu cludo mewn dŵr balast a dŵr gwaelodion llong, yn ogystal â’r dŵr a gaiff ei gludo gyda physgod cregyn a ffermir.
  • Gall y llanw a cherhyntau gludo’r rhai ifanc (larfâu) hefyd.

Pam eu bod nhw’n broblem:

  • Maent yn ysglyfaethwyr barus ac yn bwyta wystrys a chregyn gleision, a physgod cregyn brodorol eraill.
  • Gallant achosi difrod economaidd sylweddol i ddiwydiannau pysgod cregyn.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Porth Gwybodaeth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

📸 © Veined rapa whelk – Amgueddfa Cymru

Gweler y Dudalen Polisi a Deddfwriaeth am wybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol, dyframaethu a’r gyfraith.

Canllawiau arfer gorau ar gyfer gweithredwyr a phersonél dyframaethu:

Gwnewch yn siŵr fod cewyll, trestlau ac offer dyframaethu eraill yn cael eu gwirio’n rheolaidd am lygredd a’u glanhau’n briodol. Gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu glanhau a’u sychu’n drylwyr cyn eu symud i safle/lleoliad newydd.

✅ Gwiriwch y safle ffynhonnell am rywogaethau estron goresgynnol hysbys a pharhau i fod yn wyliadwrus. Gweler y dolenni ac adnoddau am wybodaeth i gynorthwyo gyda hyn.

✅ Gwiriwch stoc dyframaethu cyn ei symud i’r safle neu oddi arno am lygredd neu arwyddion o glefyd, a rhoi stoc mewn cwarantîn cyn ei chyflwyno. Defnyddiwch lifoleuadau yn y nos i ganiatáu archwiliad gweledol effeithiol.

✅ Triniwch offer a stoc sydd wedi cael eu cytrefu gan rywogaethau estron goresgynnol.

✅ Tynnwch offer a stoc nas defnyddiwyd o’r dŵr.

✅ Darparwch offer (gan gynnwys cyfarpar diogelu personol) i’w defnyddio a’u cadw ar y safle lle bo modd.

✅ Ar gyfer cynllunio neu ymgymryd â mân waith ar safle, gweler yr adran ar gynnal a chadw safle ac adeiladu.

Efallai y bydd angen ymchwil, cynllunio a threialu pellach ar rai o’r dulliau isod cyn eu gweithredu. Dylai unrhyw gamau sy’n gofyn am drwydded forol a/neu Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd ddilyn y cyfarwyddyd, y cyngor a’r gymeradwyaeth gan yr awdurdodau perthnasol.

✅ Lle bo modd, dylid osgoi defnyddio offer a phlannu pysgod cregyn mewn amgylcheddau naturiol yn ystod cyfnodau silio rhywogaethau estron goresgynnol sy’n llygru.

✅ Ar gyfer casglu sil cregyn gleision, dylid defnyddio deunyddiau sy’n sicrhau’r mwyaf o gytrefu sil ond sy’n lleihau llygru.

✅ Ar gyfer tyfu wystrys, dylid hwyluso symudiad y cregyn yn y fan a’r lle yn ystod y cyfnod tyfu, lle bo’n briodol.

✅ Ar gyfer tyfu wystrys, dylid ychwanegu agregau clai ehangedig neu graig lafa at hambyrddau sy’n meithrin wystrys.

✅ Ar gyfer tyfu wystrys, dylid archwilio’r defnydd o gynwysyddion cylchdroi (ortacs) neu fagiau y gellir eu troi â llaw i leihau’r risg y bydd rhywogaethau estron goresgynnol sy’n llygru yn cytrefu yno.

Gweler Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch Morol Cymru am wybodaeth am y saith prif faes bioddiogelwch sy’n cwmpasu pob llwybr ym moroedd Cymru. Cliciwch yma am ddolenni ac adnoddaudefnyddiol.