Polisi a Deddfwriaeth

  • Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 – Yn ei gwneud yn anghyfreithlon rhyddhau unrhyw anifail, neu ganiatáu iddo ddianc i’r gwyllt, nad yw fel arfer yn breswyl ym Mhrydain Fawr (h.y. anfrodorol) ac nad yw’n ymweliad rheolaidd â Phrydain Fawr mewn cyflwr gwyllt (h.y. mudol) neu sydd wedi’i restru yn Atodlen 9 i’r Ddeddf.
  • Rheoliadau’r Strategaeth Forol 2010 – Yn anelu at leihau effeithiau dynol ar yr amgylchedd morol, gan gynnwys rhywogaethau estron goresgynnol. Mae Disgrifydd 2 yn y strategaeth yn nodi bod “rhywogaethau estron a gyflwynir gan weithgareddau dynol ar lefelau nad ydynt yn newid yr ecosystem yn andwyol”.
  • Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru 2019 – O dan bolisi ENV_03, dylai cynigion asesu’r risg debygol o gyflwyno neu ledaenu rhywogaethau estron goresgynnol a rhoi mesurau bioddiogelwch rhesymol ar waith lle bo angen i leihau neu atal eu cyflwyno neu eu lledaenu.
  • Strategaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr – Yn amlinellu dull cydlynol ar draws y llywodraeth a sefydliadau i reoli bygythiad rhywogaethau estron goresgynnol, gan ddilyn egwyddorion atal, canfod cyflym a dileu cynnar, a rheolaeth hirdymor fel y nodir gan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol.

 

Nodyn ar gydsyniadau

Mae’r broses ar gyfer trwyddedu morol yn asesu effaith amgylcheddol gweithgareddau trwyddedadwy, gan gynnwys y posibilrwydd o gyflwyno neu ledaenu rhywogaethau estron goresgynnol. Fel rhan o hyn, gall cyngor gan ymgyngoreion fel Cyfoeth Naturiol Cymru gynnwys argymhellion ar gyfer arferion gorau o ran bioddiogelwch, fel datblygu cynllun bioddiogelwch.
Gall y cynllun hwn ddod yn amod o’r drwydded forol.

Mae angen ystyriaethau tebyg o ran bioddiogelwch ar gyfer unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud â chydsyniadau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig er mwyn amddiffyn ardaloedd sensitif rhag risgiau rhywogaethau estron goresgynnol.

    Morgludiant Masnachol

    • Mae’r Sefydliad Morol Rhyngwladol wedi disodli penderfyniad presennol (MEPC.207(62)) gyda phenderfyniad MEPC.378(80) 2023, Canllawiau ar gyfer Rheolaeth a Rheoli Biolygredd Llongau i Leihau Trosglwyddo Rhywogaethau Dyfrol Goresgynnol. Nod y canllawiau hyn yw darparu “dull cyson yn fyd-eang i randdeiliaid ar reoli biolygredd a fydd yn cyfrannu at leihau’r risg o drosglwyddo rhywogaethau dyfrol goresgynnol o fiolygredd ar longau”. Argymhellir y canllawiau hyn (h.y. nid ydynt yn orfodol), ond byddai ymgymryd â’r argymhellion nid yn unig yn mynd i’r afael â’r risg o gludo rhywogaethau estron goresgynnol, ond gallai hefyd “wellaperfformiad hydrodynamig llong a gall fod yn effeithiol wrth wella effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau aer o longau”.

     

    Crynodeb o’r gofynion craidd ar gyfer y Confensiwn Rheoli Dŵr Balast a chanllawiau’r Sefydliad Morol Rhyngwladol ar gyfer rheolaeth a rheoli biolygredd llongau.

    Confensiwn / Canllaw Gofynion craidd
    Y Confensiwn Rhyngwladol ar gyfer Rheolaeth a Rheoli Dŵr Balast a Gwaddodion Llongau, 2004
    • Cynllun rheoli dŵr balast – gan gynnwys disgrifiad manwl o sut mae’r llong yn gweithredu’r gofynion rheoli dŵr balast – h.y. ei system trin dŵr balast neu ei phrotocol cyfnewid dŵr balast.
    • Llyfr cofnodion dŵr balast – yn dogfennu cymryd, trin a gollwng dŵr balast.
    • Tystysgrif rheoli dŵr balast ryngwladol – a gyhoeddwyd gan neu ar ran y wladwriaeth i ardystio bod y llong yn rheoli dŵr balast yn unol â’r Confensiwn ar Reoli Dŵr Balast. I gael tystysgrif, rhaid i’r llong gael cynllun rheoli dŵr balast.
    Canllawiau’r Sefydliad Morol Rhyngwladol ar gyfer rheoli biolygredd llongau i leihau trosglwyddo rhywogaethau dyfrol goresgynnol, 2023
    • Ystyried risgiau biolygredd, a sut y gellir eu lleihau, mor gynnar â chyfnod dylunio ac adeiladu llongau.
    • Sicrhau defnydd o system wrthlygru briodol – yn seiliedig ar gyngor technegol a chan roi sylw arbennig i ardaloedd anodd eu cyrraedd sydd fwyaf agored i gronni biolygredd.
    • Datblygu a gweithredu cynllun rheoli biolygredd penodol i’r llong – i gynnwys manylion ardaloedd anodd eu cyrraedd ar y llong, y system wrthlygru mewn defnydd, gweithdrefnau glanhau / cynnal a chadw / atgyweirio, amserlen fonitro ac arolygu, cynllun wrth gefn.
    • Cynnal monitro ac archwiliadau biolygredd rheolaidd – gan ysgogi camau wrth gefn i leihau’r risg o fiolygredd pan fo angen.
    • Creu a llenwi llyfr cofnodi biolygredd – yn cynnwys adroddiadau glanhau ac arolygu.

     

    Dyframaethu

    Pysgota

    Mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer y Llwybr Pysgota ym Mhrydain Fawr yn amlinellu’r polisi a’r camau gweithredu cyffredinol i fynd i’r afael â’r risgiau y mae’r llwybr hwn yn eu peri ar gyfer cyflwyno a lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol morol ym Mhrydain Fawr.

    Cychod hamdden

    Mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer y Llwybr Cychod Hamdden ym Mhrydain Fawr yn amlinellu’r polisi a’r camau gweithredu cyffredinol i fynd i’r afael â’r risgiau y mae’r llwybr hwn yn eu peri ar gyfer cyflwyno a lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol morol ym Mhrydain Fawr.

    Gweithgareddau Hamdden

    Mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer y Llwybr Cychod Hamdden ym Mhrydain Fawr yn amlinellu’r polisi a’r camau gweithredu cyffredinol i fynd i’r afael â’r risgiau y mae’r llwybr hwn yn eu peri ar gyfer cyflwyno a lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol morol ym Mhrydain Fawr.