Monitro ac Adrodd
Mae chwilio am rywogaethau estron goresgynnol ac adrodd amdanynt yn gwella dealltwriaeth o’u dosbarthiad a’r gallu i ymateb yn gyflym.
Os ydych chi’n amau eich bod chi wedi gweld rhywogaeth estron oresgynnol:
Os oes gennych chi syniad da beth yw’r rhywogaeth, rhowch wybod i iRecord am weld y rhywogaeth ar yr ap neu’r wefan.
Os nad ydych chi’n hyderus yn adnabod y rhywogaeth, gallwch chi anfon eich cofnod i’ch canolfan cofnodion amgylcheddol leol. Dewch o hyd i’ch canolfan cofnodion amgylcheddol leol yma.
Os na allwch wneud cofnod o’r rhywogaeth yr ydych wedi’i gweld trwy ap neu ar-lein, mae Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr yn argymell eich bod yn anfon unrhyw gofnodion drwy’r post i:
The Biological Records Centre
CEH Wallingford
Maclean Building
Crowmarsh Gifford
Wallingford
Swydd Rydychen
OX10 8BB
✅ Cofnodwch y dyddiad, yr amser a’r lleoliad (defnyddiwch gyfesurynnau GPS yn ddelfrydol)
✅ Tynnwch lun o’r rhywogaeth (ceisiwch dynnu lluniau o sawl ongl yn ogystal ag o agos)
✅ Nodwch unrhyw wybodaeth ychwanegol (e.e. nifer, math o gynefin, rhyw, a yw’n farw neu’n fyw)
Am gymorth gydag adnabod, gweler y Dolenni ac Adnoddau.
Mae Cynllun Bioddiogelwch Morol Cymru yn rhestru enghreifftiau o ddulliau arolygu rhywogaethau estron goresgynnol morol ar gyfer monitro’r rhywogaethau hyn yn yr amgylchedd morol.
Dadansoddi samplau – Cyfoeth Naturiol Cymru
Monitro pyllau glan môr yn Aberystwyth – Cyfoeth Naturiol Cymru